Bryn Thomas y golffiwr cenedlaethol sy’n ateb cwestiynau Papur Bro Clonc

Beth yw cyfrinachau’r crwt o Gwmann?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bryn Thomas o Gwmann sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc.  Labrwr yw e wrth ei alwedigaeth a dyma ragflas i chi o’r ymatebion:

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Rhoi acen Albanaidd arno wrth chwarae yn erbyn Yr Alban yn Portiwgal.

Pan oeddet yn blentyn, beth oeddet eisiau bod ar ôl tyfu?
Golffwr.

Pryd a ble wyt ti mwyaf hapus?
Yn yr haf ar gwrs golff neu ar noswaith mas yn yfed.

Beth yw’r peth gorau am dy swydd bresennol?
Dad yw’r boss.

Beth yw’r peth gwaethaf am dy swydd bresennol?
Dad yw’r boss.

Y peth gorau am yr ardal hon?
Awyr iach.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Cyflymder 20 mya.

Pa mor aml wyt ti’n gweddïo?
Bob tro ar gwrs golff neu yn y car gyda Beca.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Mam-gu – Maureen Evans.

Er mwyn darllen mwy am y gŵr ifanc amryddawn hwn, mynnwch gopi o rifyn Tachwedd Papur Bro Clonc sydd ar gael nawr yn y siopau lleol neu fel tanysgrifiad digidol ar y we.