Caffi arall yn Llanbed yn teimlo caledwch y cyfnod

Caffi Sosban Fach i gau o ganlyniad i galedwch economaidd.

gan Ifan Meredith

Avril ac Eiddwen Sospan Fach

Mewn datganiad ar Facebook, esboniodd perchennog caffi Sosban Fach bod y costau byw cynyddol wedi ei gwneud hi’n amhosib gadw busnes llewyrchus wrth barhau â safonau gwasanaeth uchel.

“Diolch i’n cwsmeriaid”

“Diolch i’n staff gweithgar”

Mae’r caffi wedi bod ar Strŷd y Bont, Llanbed ers 16 mlynedd ac yn mynd i gau ei drysau ar Ddydd Gwener, 27ain o Ionawr 2023.

Daw’r cyhoeddiad hwn wedi i gaffi arall Llanbed, Conti’s, orfod gau ei drysau dros y gaeaf am y tro cyntaf.