gan
Ifan Meredith
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2023/10/IMG_3718-640x396.jpeg?0)
Mewn datganiad, medd Heddlu Dyfed-Powys bu farw Emily Tredwell-Scott o achosion naturiol ym Maes y Deri, Llanbed ar ddydd Iau, yr 22ain o Ragfyr 2022.
“Ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd”
Yn ôl yr Heddlu, ni fydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn menyw 33 oed a gafodd ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn mewn cysylltiad â marwolaeth y ferch 8 oed.
Aiff yr Heddlu ymlaen i gydymdeimlo â’r teulu wrth ddatgan bod “ein meddyliau yn parhau gyda’r teulu”.
“Blwyddyn yn ddiweddarach, mae’r ardal dal yn teimlo dros y teulu sydd wedi colli rhywun annwyl iddyn nhw ac fel tref yn cydymdeimlo â’r teulu wrth iddi ddod yn flwyddyn ers colli Emily mewn amgylchiadau mor drist”- Rhys Bebb-Jones, Maer Tref Llanbed