Y Canon Aled Williams, Llanllwni yn ennill cadair Eisteddfod Aelhaearn

Y gerdd yn sefyll yn amlwg mewn cystadleuaeth safonol, lle gellid bod wedi cadeirio pedair cerdd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_0182

Llongyfarchiadau i’r Canon Aled Williams, Llanllwni ar ennill cadair Eisteddfod Aelhaearn ger Caernarfon ddydd Sadwrn.

Dywedodd y beirniad y Prifardd Guto Dafydd fod

“y gerdd yn sefyll yn amlwg mewn cystadleuaeth safonol, lle roedd 8 yn cystadlu a gellid bod wedi cadeirio 4 o’r cerddi.”

Testun y gystadleuaeth oedd “Llif” ac roedd rhaid ysgrifennu cerdd rydd tua 100 o linellau.  Ysgrifennodd Aled o dan y ffugenw Brynglas am lif profiadau cyffredin bywyd, sy’n cynnwys elfennau anodd ond bod gobaith yn aml yn dod i’r amlwg yng nghanol anobaith.

Dyw Aled ddim yn barddoni yn aml. Enillodd dair cadair yn niwedd yr 80au ac un yn 1997, ond dim un ers hynny. Felly ysbeidiol ac achlysurol yw’r cyfansoddi!  Wedi dweud hynny, cyhoeddodd ei hunangofiant Cerrig Milltir chwe blynedd yn ôl.

Mewn ymateb ganddo wedi’r seremoni dywedodd Aled,

“Rwy’n falch iawn- roedd e’n brofiad annisgwyl ond pleserus dros ben.”