Canu Cymraeg yn Neuadd Dinas Sheffield

Sioned-Mair Richards yn arwain y gân ar ddiwedd ei chyfnod fel Arglwydd Faer

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Sioned-Mair Richards sydd â’i gwreiddiau yng Ngorllewin Cymru yw Arglwydd Faer Dinas Sheffield ac i ddathlu diwedd ei chyfnod yn y swydd anrhydeddus hon, arweiniodd ganu Cymraeg yn Neuadd y Ddinas yr wythnos ddiwethaf.

Yn y fideo uchod gallwch ei gweld yn gwisgo ei chadwyni yn arwain cân Ceiriog sef Y Gwcw ynghyd â’r hwyl a ddaw gyda symudiadau’r gân.

Sioned-Mair yw’r Arglwydd Faer cyntaf o Gymru yn Sheffield.  Mynnodd dyngu llw yn Gymraeg ac yn Saesneg wrth gael ei sefydlu bron i flwyddyn yn ôl.  Mae ganddi fat “Croeso” hyd yn oed ar y llawr ym Mharlwr yr Arglwydd Faer.

Esboniodd Sioned-Mair,

“Grŵp Singing for Health sy’n cwrdd bob wythnos yn ardal First Park, Sheffield oedd yn canu gyda fi. Maen nhw’n canu er mwyn codi calon ac yn perfformio mewn digwyddiadau cymdeithasol. Rhoddais wahoddiad iddyn nhw i ganu yn Neuadd y Ddinas ynghyd â gwahodd gwesteion eraill.  Yr un sy’n arwain y canu bob dydd Gwener oedd yn cyfeilio. Roedd yn braf gwneud rhywbeth neis ar ddiwedd y flwyddyn gyda phawb yn ymuno a chwerthin.”

Mae gan Sioned-Mair flwyddyn ar ôl fel cynghorwr llafur wedi iddi ennill etholiad yn ddiweddar, ond mae’n gorffen fel Arglwydd Faer yr wythnos hon.

Ychwanegodd Sioned-Mair,

“Rydw i wedi dwli ar bopeth rwy wedi gwneud heblaw cadeirio’r cyngor cyfan.  Bu’n her ceisio cadw trefn ar 83 o gynghorwyr.  Ceisiais wneud hynny gyda hiwmor tra’n cymryd y pynciau i gyd o drifri.”

Mae Mam Sioned-Mair sef Mair Richards yn 94 oed ac yn byw yng Nghwm Aur, Llanybydder.

Dywedodd Dilwen Roderick, Llanbed sy’n fodryb i Sioned-Mair,

“Mae Sioned yn mwynhau gwneud gwaith cyhoeddus ac mae newydd ennill etholiad yn ddiweddar fel aelod llafur.  Mae hi’n ddarllenwraig mawr a bob amser â llyfr yn ei llaw.  Fel cyn athrawes mae’n gwirfoddoli mewn llyfrgell hefyd.”

Bydd Dilwen yn gwylio seremoni sefydlu’r Arglwydd Faer newydd yr wythnos hon dros Zoom ac yn edrych ymlaen i glywed am uchafbwyntiau Sioned-Mair yn ystod ei blwyddyn wrth y llyw.

Rhaid felly llongyfarch Sioned-Mair am gyflawni swydd mor fawr gan wneud hynny wrth gynnwys y Gymraeg yn nigwyddiadau cyhoeddus dinas diwydiannol yn Lloegr.