Carnifal Llanybydder

Carnifal llwyddiannus yn y pentref.

gan Gwyneth Davies

Ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 8fed, cynhaliwyd carnifal a mabolgampau blynyddol Llanybydder. Yn ystod yr wythnos flaenorol, cafwyd noson bingo, dwy helfa drysor (cerdded a char) a chwis hefyd. Hoffai Pwyllgor y Pentref ddiolch i bawb a gefnogodd. Diolch i’r llywyddion, Ranulf a Marcia Mansel, i bob un ddaeth â stondin, i’r gwirfoddolwyr am gynorthwyo yn ystod y dydd, i Sally Doolaly fu’n diddori’r plant ac i Ryan Simpson am yr adloniant gyda’r nos. Diolch hefyd i ‘Swine & Dine hogroast and catering’ am ddarparu’r bwyd ac i’r busnesau lleol am eu cefnogaeth hwythau.

Dyma rai o luniau’r carnifal:


Llywyddion y dydd oedd Mr Ranulf Mansel a Mrs Marcia Mansel.

 


Fflôt y carnifal:

‘Fairy queen’ – Lenna Lloyd
‘Prince Charming’ – Jac Williams
‘Attendants’ – Loti Mumford ac Alaw Edwards
‘Rose queen’- Cadi Davies

 


Mr Mansel yn coroni’r frenhines.

 


Enillydd y fflôt – ‘Pop Idols’ gan Ganolfan deuluol Llanybydder.

 


Enillydd y carnifal yn gyffredinol – Alfie Mumford wedi gwisgo fel Freddie Mercury.

 


Enillwyr y ras ‘3 legged’ oedd Josh a Dan.

 


‘Glamorous Granny’ y carnifal oedd Marion Hall.

 


‘Hunk y carnifal’ oedd Ieuan Davies.