Cerddorfa Siambr Llambed yn helpu cerddorion o Wcráin

Rhodd i Gerddorfa Symffoni Zaporozhye

James Cook
gan James Cook
Ivan Levchenko - prif sacsoffon, y dinistriwyd ei fflat ynghyd â'i eiddo

Ivan yn cael siec gan Iryna Konareva, Cyfarwyddwr y Ffilharmonig Rhanbarthol

Fflat Ivan Levchenko

Fflat Ivan Levchenko

Svitlana Kholod - ymchwilydd a chyfarwyddwr y rhaglen, sydd angen triniaeth feddygol hynod ddrudt.

Svitlana yn cael siec gan Iryna Konareva, Cyfarwyddwr y Ffilharmonig Rhanbarthol

Cerddorfa Siambr Llambed yn perfformio

Blaenwr ac Unawdydd – David Cooper

Cerddorfa Siambr Llambed yn Helpu Cerddorion Wcráin sy’n cael eu bomio allan o’u cartrefi, a chyda thriniaeth feddygol frys gyda Rhodd i Gerddorfa Symffoni Zaporozhye.

Mae Cerddorfa Siambr Llambed (CSL) yn cefnogi cyd-cerddorion yr effeithiwyd arnynt gan oresgyniad Wcráin gyda chyfraniad o £500 a godwyd yn ei chyngerdd diweddaraf i Zaporozhye Symphony Orchestra.

Cerddorfa gymunedol fechan yw CSL a sefydlwyd yn 2005 gan Dr George Lilley i roi cyfle i chwaraewyr lleol, yn enwedig chwaraewyr ifanc, i ymarfer a pherfformio’r repertoire cerddoriaeth glasurol.

Dywedodd yr Arweinydd Gwadd David Russell Hulme “Dwy’n meddwl ei fod mor dda y gallwn helpu unigolion fel hyn. Mae’r rhain yn bobl rwy’n eu hadnabod ac wedi gweithio gyda nhw, yn fy rôl fel arweinydd gwadd Cerddorfa Symffoni Zaporozhye. Dw i mor falch y bydd CSL yn codi arian i aelodau’r gerddorfa eto yn y dyfodol.”

Dywedodd Ysgrifennydd CSL John Crompton “Mae cysylltiad ein cerddorfa â David Russell Hulme yn rhoi cyfle unigryw i ni gefnogi Cerddorfa Symffoni Zaporozhye i gadw diwylliant a gobaith yn fyw yn ei ddinas enedigol, sy’n agos at barth meddiannaeth Rwsia ac sy’n cael ei hymosod yn rheolaidd.”

Cyflwynwyd sieciau i Ivan Levchenko – prif sacsoffon, y dinistriwyd ei fflat ynghyd â’i eiddo, ac i Svitlana Kholod – ymchwilydd a chyfarwyddwr y rhaglen, sydd angen triniaeth feddygol hynod ddrud.

Cynhelir cyngerdd nesaf CSL ar Nos Sadwrn, 18 Tachwedd, yn Yr Hen Neuadd, Campws Llambed, PCYDDS. Oedolion £10, Plant a Myfyrwyr AM DDIM. Arian y cyngerdd i fynd i Wcráin eto.