Clonc360 yn dathlu yn y brifddinas!

Cyhoeddi Clonc360 yn enillwyr yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2023.

gan Ifan Meredith
4ef78a09-505a-47db-89dc
b23fba27-488c-4eae-bf95
90ea4266-480b-411f-9307
5d5273f5-443f-432f-98c7
IMG_4950
IMG_5007
IMG_5008
IMG_5009
IMG_5016

Ar nos Wener, y 10fed o Dachwedd cynhaliwyd Gwobrau Cyfryngau Cymru 2023 dan nawdd Elusen y Newyddiadurwyr a chyhoeddwyd Clonc360 yn enillwyr un o’r categorïau. Roedd y digwyddiad yn gwobrwyo’r goreuon o Newyddiadura Cymru.

“braint bod gwefan fro fel Clonc360 yn cael ei chydnabod mewn cystadleuaeth genedlaethol fel hon.”

Roedd yna amrywiaeth o gategorïau i’w hennill gan sefydliadau ar draws y diwydiant ac yn eu canol oedd Clonc360, gwefan fro unigryw gan y bobl ar gyfer y bobl. Roedd Clonc360 yn un o dri oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr ‘Newyddiaduraeth Gymunedol y flwyddyn’.

Yn ystod y noson, cyhoeddwyd mai eleni yw’r flwyddyn â’r nifer fwyaf o ymgeisiadau ar gyfer y gwobrau.

Bu 10 ohonom i’r cinio gwobrwyo a oedd yn cael ei arwain gan gyflwynydd y BBC Lucy Owen a chyflwynydd newyddion ITV, Johnathan Hill yng Ngwesty’r Parkgate. Roedd yna lu o sefydliadau newyddiadurol o bob cwr o Gymru gan gynnwys y BBC, ITV, S4C a Wales Media.

Cafwyd noson hwylus ac mae Clonc360 yn falch i gael ei henwi’n enillwyr ‘Newyddiaduraeth Gymunedol y flwyddyn 2023’ yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.

“ffodus yn yr ardal hon hefyd bod cymaint o bobl yn darllen ein straeon.”

Yn rhan elfennol o’r wefan fro mae ein darllenwyr a chyfranwyr lleol ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth i fod yn wefan fro lwyddiannus.

Medd Cadeirydd Clonc, Dylan Lewis:

“Rhaid diolch i bawb sy’n cyfrannu i’r wefan ac i gynllun Bro360 a Chronfa Goffa Dr Dewi Davies am bob cefnogaeth. Rydym yn ffodus yn yr ardal hon hefyd bod cymaint o bobl yn darllen ein straeon.”