Clwb Bowlio Llambed yn agor am dymor newydd yr Haf

Mae’r clwb yn croesawu aelodau newydd ar gyfer y tymor i ddod.

gan Alis Butten
Bowlio yn Llambed

Bowlio ar Nos Wener yn agored i bawb.

Bowlio yn Llambed.
Llywydd y Clwb Ron Thomas
Maer y dref Mrs Helen Thomas
Maer y dref Mrs Helen Thomas a Cadeirydd y Clwb Mr Peter Fleming.
Bowlio yn Llambed

Fe agorodd Clwb Bowlio Llambed ei gyfleusterau awyr agored yn swyddogol dros y penwythnos. Croesawodd Mr Peter Fleming Cadeirydd y Clwb Maer y Dref Mrs Helen Thomas, i ddechrau’r tymor awyr agored yn swyddogol trwy fowlio’r bowlen gyntaf. Siaradodd Llywydd y Clwb Ron Thomas i rannu ei ddymuniadau da ar gyfer y tymor. Mynychodd aelodau hen a newydd y diwrnod lle chwaraewyd gêm gyfeillgar gyda bwyd a diod i ddilyn.

Mae Clwb Bowlio Llambed yn un o glybiau bowlio mwyaf llwyddiannus Gorllewin Cymru. Mae ganddi dimau dynion a merched llwyddiannus, nifer cynyddol o chwaraewyr iau ac enillwyr twrnamaint agored yn ogystal â chynrychiolwyr y Sir a Chymru. Bu’r tymor diwethaf yn llwyddiannus unwaith eto i chwaraewyr Llambed gyda thîm hŷn y dynion a’r ail dîm yn ennill y gynghrair, tîm merched yn ennill eu cynghrair sirol ‘Llan’ yn ogystal â nifer o bencampwyr y Sir a Chymru i enwi ond ychydig.

Mae’r clwb yn gweld aelodau’n cael llwyddiant o bob lefel gan gynnwys capiau Cymru. Yr wythnos hon cafodd Melanie Thomas ac Alis Butten eu henwi fel rhan o garfan merched Cymru a fydd yn teithio i’r Alban ddiwedd mis Mehefin ynghyd â rheolwr tîm newydd Cymru, Anwen Butten. Mae’r clwb yn cynnig gemau i chwaraewyr o bob gallu. Gwelodd y clwb gyflwyniad llwyddiannus o’r ‘Gynghrair Nos Wener’ lle bu timau niferus o bob oed yn cystadlu bob wythnos mewn fformat cyflym a hawdd o chwarae.

Mae’r clwb yn croesawu aelodau newydd o unrhyw oedran a gallu. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig arni i ddod lawr i’r clwb unrhyw nos Wener drwy’r Haf o Ebrill yr 28ain o 6yh ymlaen. Trowch i fyny gydag esgidiau fflat a bydd gweddill yr offer yn cael eu darparu, yn ogystal â hyfforddwyr profiadol ar gael i helpu. Mae’r clwb yn ofod cymdeithasol gwych gydag ardal bar dan do fawr, digon o le eistedd awyr agored cysgodol ac aelodau croesawgar o bob oedran.

Am fwy o wybodaeth am y clwb neu i gysylltu â ni, ewch i’n tudalen Facebook : Clwb Bowlio Llanbedr P.S neu’r wefan.