Clwb Ffermwyr Ieuanc Llanllwni’n Dathlu’r 80

Cynhaliodd aelodau C.Ff.I. Llanllwni De Prynhawn ac Arddangosfa i nodi pen-blwydd y clwb yn 80.

gan Owain Davies
Te prynhawn ac arddangosfa'n dathlu 80 mlynedd ers sefydlu C.Ff.I. Llanllwni

Dydd Sul Gorffennaf y 30ain ymgasglodd tyrfa dda yn neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni i ddathlu 80 mlynedd ers sefydlu C.Ff.I. Llanllwni.

Cafwyd te prynhawn ac roedd arddangosfa wedi ei osod allan o luniau a deunyddiau yn adrodd hanes y clwb o’r 1940au hyd y presennol. Cafodd nifer, o bob cenhedlaeth, flas ar edrych yn ôl ar sut mae pethe (a’r aelodau) wedi newid dros y degawdau. Bu hefyd cryn ddiddordeb yn ffrogiau a gwisgoedd aelodau’r clwb a fu’n Forwynion, Brenhines a Llysgenhadon y Ffederasiwn sirol.

Ar y 29ain o Orffennaf 1943 y sefydlwyd y clwb pan alwodd y prifathro dros dro ar y pryd, Mr Peter Hicks, gyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Llanllwni. Yn dilyn anerchiad gan Mr. J L Lloyd, Prifathro Coleg Pibwrlwyd, penderfynwyd yn unfrydol ffurfio’r ‘Llanllwni and District Young Farmers Club’. Etholwyd Enoch Thomas, Blaencwmdu yn gadeirydd, Lewis Davies, Gwndwn yn ysgrifennydd a Lisa Davies, Glandulais yn drysoryddes gyda Wil Davies, Gwarcwm yn arweinydd. Cyfarfu hyd at 60 o aelodau yn wythnosol o’r 6ed o Awst ymlaen ar gyfer darlithoedd a thrafodaethau amaethyddol yn bennaf ar bynciau megis “Hand Milking vs The Milking Machine”.

Mae’n amlwg ers y dyddiau cynnar fod yr aelodau yn mwynhau teithio ar dripiau a chymdeithasu mewn ‘sosials’. Mynychodd yr aelodau rali cyntaf Clybiau Ffermwyr Ieuanc y Sir ym Mis Medi 1943 gan gystadlu yn y blynyddoedd canlynol.

Tyfodd yr aelodaeth i dros 70 yn y 1950au gyda’r 50au a’r 60au yn gyfnod llewyrchus wrth i’r aelodau gael blas ar gystadlu ar lefel sir a thu hwnt. Erbyn y ‘70au cwympodd y clwb ar amser anodd, ond yn ffodus gyda chefnogaeth di-flino trefnydd newydd ffederasiwn y sir ar y pryd, Miss Eirios Russell, ail gynnwyd y fflam.

Erbyn y 1980au roedd eto yn Llanllwni glwb niferus a llwyddiannus. Yn flynyddol ers 1985 mae’r clwb wedi cynnal digwyddiad codi arian at elusen ar Ŵyl y Banc Awst gan codi degau o filoedd o bunnoedd at achosion da dros y blynyddoedd. Treialon cŵn defaid oedd hi ar y dechrau ond erbyn hyn cynhelir sioe lewyrchus.

I ddathlu 60 mlwyddiant y clwb, cyhoeddwyd llyfr o erthyglau a lluniau yn croniclo hanes y plwyf a’r clwb. Er na fu’r aelodau’n niferus iawn yn dilyn hynny cadwyd ati ac erbyn heddiw mae un o glybiau mwyaf Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod yn Llanllwni. Wedi profi cryn lwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf mae clwb Llanllwni yn un o’r ychydig glybiau sydd wedi bod yn ran o Fferedasiwn C.Ff.I. Sir Gaerfyrddin drwy gydol ei fodolaeth.

Bu C.Ff.I. Llanllwni yn ennillwyr:

  • Adran Iau y Rali ddwywaith ac Adran Hŷn y Rali deirgwaith
  • Eisteddfod y Sir deirgwaith
  • Drama’r Sir deirgwaith

Swyddogion Sir o’r clwb:

  • Cadeiryddion Sir: Danny Davies (1959 -1961) ac Eileen Davies (1990-1991)
  • 12 Morwyn/ Dirprwy Lysgenhades
  • 4 Brenhines/ Llysgenhades
  • 3 Llysgennad
  • 4 Aelod Iau y Flwyddyn
  • 1 Aelod Hŷn y Flwyddyn

Bydd y dathlu yn parhau yn sioe’r clwb Ddydd Llun Awst 28ain a gyda thaith dractorau a chymanfa ganu nes ymlaen yn y flwyddyn.