![IMG_0021](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2023/11/IMG_0021-640x396.jpeg?cq)
![IMG_0019](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2023/11/IMG_0019-308x411.jpeg?cf)
Diolch o galon i bawb a fu’n helpu a chefnogi ein noson codi arian yng Nghlwb Rygbi Llanybydder ar Ddydd Sadwrn, 28ain Hydref.
Oherwydd eich caredigrwydd hyd yn hyn rydym wedi codi y swm anferthol o £5,245.49 yn enw Sion i Ambiwlans Awyr Cymru.
Rhaid i mi diolch i’r canlynol- Dai Davies am iddo gynnal ocsiwn arbennig; Angharad ac Andrew am adel i ni fenthyg y Clwb ac am eu cymorth; Elin am rhoi adloniant gwych i’r gynulleidfa; Sarah, Katy a Elin am werthu tocynnau raffl; Eleri am waxo’r dynion – swydd pleserus iawn!; I’r dynion am fodloni cael eu waxo o flaen pawb! Katy a Nigel am addurno’r Clwb; Pob un a wnaeth roi eitem i’r ocsiwn neu wobr raffl, diolch o galon i chi; I bob person a ddaeth i gefnogi, rwy’n gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr iawn; Pob un sydd wedi noddi ein skydive, diolch i chi.
Rydyn ni wedi codi swm rhyfedda yn barod, ond, hyd y byddwn wedi cymeryd rhan yn y skydive, bydd ein tudalennau ‘gofundme’ ar agor, felly mae dal amser i chi noddi, os i chi’n gallu.
Diolch i chi gyd am bopeth.