Neidio o’r awyr i godi arian wedi colli mab

Sophie Hughes o Lanybydder yn codi arian tuag at Ambiwlas Awyr Cymru y penwythnos hwn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Poster-Sion

Mae Sophie Hughes o Lanybydder yn trefnu digwyddiadau’r wythnos hon er mwyn codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a hynny wedi iddi golli mab bach 8 wythnos oed.

Dywed Sophie,

“Ar yr 28ain Hydref, byddaf yn cymeryd rhan yn y skydive uchaf yn y Deyrnas Unedig, sef 15,000 troedfedd i godi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.  Rwy’n gwneud hyn er cof am Sion fy mab bach.

Yn dilyn fy antur fawr, byddwn yn cynnal ocsiwn, raffl, adloniant a sesiwn rhoi cwyr ar ddynion dewr y pentref yng Nghlwb Rygbi Llanybydder.”

Ychwanega Sophie,

“Mae codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru er cof am Sion yn bwysig iawn i fi, gan i’r Ambiwlans Awyr a’r criw ddod i helpu ni pan gollon ni Sion ym mis Mai eleni.  Yr Ambiwlans Awyr yw’r unig ffordd i gyrraedd ein hardal ni pan fydd trychineb yn digwydd.

Ond rwyf am godi arian i’r Ambiwlans Awyt er mwyn gwneud yn siwr y byddant yn gallu bod yna i bob person ar ddiwrnod gwaethaf eu bywyd.”

Cynhaliwyd noson bingo eisoes ar nos Lun y 23ain yn y Clwb Rygbi ac mae dydd Sadwrn yn argoeli i fod yn ddiwrnod arbennig iawn.

Bydd tri yn awyr blymio i gyd am 11.00 y bore yn Abertawe sef Sophie, Alex Jones a Josh Rees.  Elin Hughes, chwaer Sophie wedyn a fydd yn perfformio yn y Clwb Rygbi gyda’r hwyr.

Rhowch yn hael a phob hwyl gyda’r digwyddiadau.  Gallwch gyfrannu at yr achos drwy ddilyn y ddolen hon ar facebook.