Corisma yn ail-dderchrau

Y côr merched yng Nghwmann yn cwrdd nos Lun nesaf

Côr Merched Corisma
gan Côr Merched Corisma
Corisma

Mae Côr Merched Corisma yn ail-ddechrau nos Lun nesaf yr 11eg o Fedi wedi sawl blwyddyn o seibiant.  Dyma’r tro cyntaf i’r côr ymgynnull ers cyn Covid ac mae’n gyfle gwych i aelodau newydd i ymuno.

Dywedodd Lena Jenkins, Cadeirydd Corisma,

“Mae’n amlwg fod pawb yn awyddus iawn i ail gydio yn hwyl y canu ar ôl saib hir! Ni’n edrych ymlaen i weld y wynebau cyfarwydd a gobeithio croesawu aelodau newydd i ymuno gyda ni hefyd. Beth amdani?”

Sefydlwyd y côr ym mhentre Cwmann gan Carys Lewis a Sian Roberts Jones yn 2006 ond daw’r aelodau o ardal ehangach.  Dros y blynyddoedd maent wedi perfformio mewn neuaddau, capeli ac eglwysi yn lleol yn ogystal ag ar Radio Ceredigion, Radio Cymru ac ar raglen ‘Noson Lawen’ a ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ ar S4C.  O ganlyniad, maent wedi cynorthwyo mudiadau lleol i godi symiau syweddol iawn tuag at elusennau.

Cyhoeddwyd CD ganddynt yn 2015 a dywedodd Eifion ‘Bodyshaker’ Williams a gynhyrchodd y CD bod Corisma yn un o gorau llwyfan gorau yng Nghymru.

Dyma griw llawen o ferched sydd wedi mynd heibio oedran cystadlu gyda’r Urdd a’r Ffermwyr Ieuainc.  Maent wrth eu bodd yn pinco a gwisgo lan i gael noson mas gyda’r nod o fwynhau cymdeithasu a chanu.

Ceir mwy o fanylion am y côr ar y wefan hon, ond Canolfan Cwmann yw’r lle i fod nos Lun nesaf a hynny am 7.30 o’r gloch.