Ifan-John Davies o Lanybydder sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc. Mae e’n gwneud ei brentisiaeth gyda National Grid ar hyn o bryd.
Dyma flas i chi o’r hyn sydd ganddo i’w rhannu:
Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Cwmpo i gysgu ynghanol rowndabowt yn Aberystwyth ar nosweth allan da’r bois.Beth yw’r siopau annibynnol lleol wyt ti’n ymweld â nhw fwyaf aml a pham?
Popty Llanybydder (Gwalia) – mae’r ‘chicken burger’ yn ffein.Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden?
Chwarae rygbi i glwb Llanbed, a chware darts ’da’r bois i glwb Llanbed.Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Wrth golli MamguAr beth y gwnest orwario arno fwyaf?
Naiomi adeg y Nadolig.Beth yw’r peth diwethaf wyt ti’n ’neud cyn mynd i’r gwely?
Neud yn siŵr bod y bocs bwyd wedi’i neud ar gyfer y gwaith drannoeth.
Mynnwch gopi o rifyn cyfredol Clonc er mwyn darllen mwy. Mae Clonc ar werth yn y siopau lleol neu drwy danysgrifiad digidol ar y we.