Cyflwyno arian anrhydeddus i ddau achos teilwng

Elw’r Taith Tractorau Goleuedig yn Llanybydder

Victoria Davies
gan Victoria Davies
48B22C68-53F9-48DF-94E9

Rydym ni wedi cyflwyno’r sieciau o £900 yr un i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysgol Llanybydder fore Mawrth. Dyma’r arian a godwyd wrth wneud Taith Tractorau Goleuedig ardal Llanybydder a Rhydcymerau nôl ym mis Rhagfyr.

Yn y llun gwelir Meinir Davies (Athrawes, Ysgol Llanybydder) fi, Victiria Davies a Dafydd Morgans (Taith Tractorau Llanybydder a Rhydcymerau) a Hannah Bartlett o Ambiwlans Awyr Cymru.

Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd.