Daeth criw anarferol wedi gwisgo fel Evel Knievel gyda 50 o feiciau modur o pob math a maint i Glwb Rygbi Llanybydder ddoe.
Pob blwyddyn ers 2011, mae Jason Lewis o Gorwen yn mynd ar daith beic modur dros benwythnos gŵyl y banc hwyr ym mis Mai. I ddechrau, dim ond tua phump o’i ffrindiau oedd yn ymuno ar y daith. Dros y blynyddau mae’r criw wedi tyfu a thyfu!
O dan nawdd Clwb Beiciau Modur “Ride Cymru”, mae’r digwyddiad wedi troi mewn i daith dros bedwar diwrnod. Fel arfer mae’r daith yn mynd o amgylch Cymru ond ambell waith maen nhw’n teithio i Gaeredin, Llundain a Chaerdydd.
Pob blwyddyn mae’r Knievels yn codi arian i elusen arbenig. Yn y gorffennol roedd y Knievels yn codi arian i Macmillan, ond eleni yr ‘NSPCC’ sy’n cael y fraint o dderbyn yr holl arian sydd yn cael eu codi gan yr unigolion a hefyd trwy’r casgliadau bwced ar y ffordd. Cyn i’r daith ddechrau roedd y cyfanswm am 2023 wedi cyraedd £20,000!
Mae pob un sy’n cymryd rhan yn talu am bopeth sydd eisiau arnyn nhw: gwestai, bwyd, gwisg y Knievel yn cynnwys clogwyn, tanwydd i’r beic, ayb. Hefyd, mae’r unigolion yn mynd ati i gasglu gymaint â gallan nhw o arian trwy noddwyr neu drwy gynnal digwyddiadau.
Mae ein mab Aled wedi bod yn cymryd rhan gyda’r Cymru Knievel’s am sawl blwyddyn nawr a rydw i wedi bod yn helpu e i godi arian pob blwyddyn trwy werthu ‘cypcecs’ am Sul y Mamau a’r Pasg.
Mae Aled wedi cael cefnogaeth anhygoel gan bobl ardal Llanybydder a phan ofynnais i a fydd y Knievels dod i Lanybydder er mwyn i’r bobl sydd wedi cefnogi gael y cyfle i weld yr holl feiciau a chwrdd â’r beicwyr cytunodd Jason Lewis yn syth.
I ddweud diolch ac i helpu codi rhagor o arian i’r NSPCC, penderfynais i wneud rhagor o ‘cypcecs’, pice bach a bara brith i’r Knievels.
Yn ffodus iawn, mae Andrew ac Angharad Lewis o Glwb Rygbi Llanybydder wedi bod yn gefnogol iawn a gadael ni ddefnyddio ystafell i ddarparu te a chacennau i’r Knievels. Yr ydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth y maen nhw’n rhoi i’r gymuned.
Daeth llawer iawn o bobl mas i weld Ride Cymru Knievels yn dod trwy Lanybydder ac i gwrdd â nhw tu fas y Clwb Rygbi. Fel arfer, bu pobl Llanybydder yn haelionus unwaith eto ac roedd y bwcedi casglu wedi cael eu llenwi gyda rhoddion anhygoel i’r NSPCC.
Gobeithio bydd y Knievels yn dod i weld ni eto yn y blynyddau nesaf!