Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan am helpu draenogod

Cynnig help llaw i’r draenog, yr anifail sy’n cau fel dwrn.

gan ELERI THOMAS
priffordd-ffram-highway-frame-1-2

Ar ol creu gwagle o 13x13cm yn eich wal/ffens mae’r ffram yn ei amgylchynnu’n ddeniadol ac yn tynnu sylw i drafferthion draenogod

bocs-hedgehogs-r-us-1

Fframau’r priffyrdd x 50

Prosiect “R Us” Priffyrdd y Draenog

Anifail bach pigog yw’r draenog sy’n adnabyddus i nifer ohonom.

Ond dengys ystadegau fod niferoedd draenogod mewn ardaloedd trefol, yn adfer.

Wyddoch chi fod amcangyfrif bras yn nodi poblogaeth bresennol draenogod yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i fod yn llai nag 1 miliwn, o’i gymharu â 30miliwn yn y 1950au!!

Gall eich gardd chi fod yn fan cychwyn i gynyddu eu niferoedd ar lefel genedlaethol. Helpwch i warchod y rhywogaeth frodor eiconig yma’n ardd gefn eich hun.

Un o’r pethau pwysicaf allwch wneud i’w helpu yw sicrhau taith hawdd drwy eich gardd.

Teithia’r draenog tua 2 cilomedr bob nos drwy ein parciau a’n gerddi wrth geisio darganfod bwyd ac i gwrdd â draenogod eraill.  Os yw eich gardd yn gaeedig a’ch ffensys a’ch waliau’n gadarn, amharu yr ydych ar eu cynlluniau a lleihau’r tir/cynefin sydd ar gael iddynt.

Gallwch ysgafnhau eu baich ryw fymryn, wrth waredu ar y rhwystrau o fewn eich rheolaeth er enghraifft cloddio tyllau mewn, neu o dan ffensys a waliau.

Gall y newid lleiaf wneud gwahaniaeth enfawr felly beth am ddechrau â Phriffordd y Draenog?

CYSYLLTWCH EICH GARDD

Dywedodd y Gyngh. Eleri Thomas, Cydlynydd yr ymdrech ar ran y Cyngor Tref, “Bwlch  13 x 13cm mewn ffens yw’r Briffordd, sy’n eu galluogi i fynd drwy’ch gardd i chwilio am fwyd, dŵr a chysgod.  Gellir ei osod yn hawdd iawn ac mae’n gam cadarnhaol i estyn help llaw i’n ffrindiau, sydd mewn perygl o ddifodiant  Mae’r briffordd sy’n amgylchynnu’r bwlch yn codi ymwybyddiaeth o’u sefyllfa.”

Syniad Linda Cook yw’r prosiect hwn, sylfaenydd “Hedgehog R Us” a’i gweledigaeth yw gweld y priffyrdd, ym mhob pentref, tref a dinas y DU.

Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan wedi prynu bocs sy’n cynnwys 50 o Briffyrdd (ffrâm). Gwneir cyfraniad ariannol i Gadwraeth Draenogod am bob bocs a werthir.

Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, casglwch Briffordd Ddraenog o Lyfrgell y Dref, Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan.

Maent am ddim ac yn cynnwys taflen wybodaeth.

Os ydych yn teimlo’n arbennig o uchelgeisiol yna’r opsiwn delfrydol fyddai cyfnewid eich waliau a’ch ffensys am berthi. Byddai hyn yn darparu lloches, bwyd a llwybr i mewn ac allan o’ch gardd, heb sôn am y budd a ddaw yn ei sgil i fywyd gwyllt pellach fel adar a gwenyn.

Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych, wedi i chi osod y briffordd mewn lle drwy luniau, straeon, fideos ac ati. (manylion cyswllt ar gael ar www.lampeter-tc.gov.uk/cy/)

A welsoch chi ddraenog yn defnyddio’r briffordd?

CYMERWCH GAM NAWR!

Gwnewch addewid i wneud twll yn eich ffens neu wal (os nad oes lle eisoes i ddraenogod symud yn rhydd)

A hefyd, o bosib, casglu’r ffrâm o Lyfrgell y Dre.

Canodd y bardd Alan Llwyd gywydd yn cynnwys y llinellau:

Gweld draenog a’i frys cogio

Yn chwim ei arafwch o,

A’i weld o yn cau fel dwrn

Wedi ei wasgu hyd asgwrn

Ar ran y draenogod.  Ar ran yr  amgylchedd. Diolch!