Bydd yna arddangosfa fach yn Amgueddfa Llambed yn dangos lluniau a derbyniadau o siopau y dref pan y bydd yn agor wythnos nesaf.
Prynhawn ma, cyhoeddodd Paul Sutton o Stoke yn Lloegr ar facebook ei fod wedi darganfod bocs o eiddo hen fusnes yn Llanbed.
“Dim ond clirio hen garej yma yn Stoke a gyda rhywfaint o hen bren oedd blaen hen focs gyda phlac rhydlyd Eric Richards, Llanbed. Yn drueni ei daflu felly byddaf yn ei gadw ond os oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth am y person / cwmni neu unrhyw beth o ddiddordeb.”
Does dim cysylltiad â Llanbed gan Paul, dim ond wedi dod o hyd i hyn yn hen garej ei rieni gyda’r bocs wedi ei dorri ar gyfer coed tân o bosib.
Ymatebodd Barbara Jones mewn sylw,
“Yr oedd un Eric Richards, Stryd y Coleg, Llanbedr a fu’n gwerthu nwyddau haearn a theclynnau tua 1910 – 1920. Efallai y bydd gan Amgueddfa Llanbed ddiddordeb.
Er mwyn cadarnhau hyn, ysgrifennodd Stephen Snudden wedi iddo ddod ar draws archif o hen bapurau newydd ar wefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru,
“Yn ôl hyn, os chwiliwch am Eric Richards, mae’n bosibl mai Gwerthwr Haearn o Lambed oedd e.”
Dengys adroddiadau ym mhapurau The Cambria Daily Leader, The Cambrian News and Meirionethshire Standard a The Carmarthen Weekly Reporter bod Eric Richards, Cedar Bank, Stryd y Coleg, Llanbed mewn dyled sylweddol.
Rhaid diolch i Paul Sutton am beidio taflu popeth oedd yn ei garej a rhannu llun o’r trysor hwn gyda ni. Mae’n hapus iawn o ymateb bobl ar facebook, a dywedodd,
“Mae hynny’n wybodaeth wych a mor ddiddorol. I feddwl bod blaen un o’i focsys roedd yn ei ddefnyddio dros 100 mlynedd yn ôl wedi goroesi er na wnaeth ei fusnes wneud hynny ar ôl y Rhyfel Mawr mor ddiddorol.”
Faint ohonoch fyddai â diddordeb i wybod mwy am hen siopau Llanbed? Oes atgofion gennych am Lanbed yn yr hen ddyddiau? Neu a ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai gallu rhannu atgofion ar fideo neu mewn darn ysgrifenedig ar wefan Clonc360?