Yr arlunydd Cerys Pollock o Gwmsychbant sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.
Mae Cerys bellach yn Swyddog Derbyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ond yn parhau i baentio lluniau anifeiliaid a thirwedd yn ei hamser hamdden.
Dyma flas o’r hymatebion:
Pan oeddet yn blentyn, beth oeddet eisiau bod ar ôl tyfu?
O’n i eisiau priodi rhywun cyfoethog er mwyn iddyn nhw allu prynu ffarm i fi- fel bo fi gallu aros gartre a threulio amser fi i gyd gydag anifeiliaid!I ba gymeriad enwog wyt ti’n debyg?
Ma lot wedi gweud bo fi’n edrych yn debyg iawn i ‘Young Donna’ yn Mamma Mia 2 (actores Lili James)! Fi hyd yn oed di cal rhai pobl ddieithr yn dod lan ataf yn gweud hyn.Pwy yw dy arwyr?
Datcu Beili-Gwyn – lejynd a chafodd dylanwad mawr ar fy mywyd.Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Nath e neud fi lot agosach i fy ffrindiau, gan sicrhau ffrindiau oes! Nathon ni fyw gyda’n gilydd yn ein tŷ prifysgol trwy gydol y cyfnod cloi a chawsom gymaint o hwyl wrth greu atgofion bythgofiadwy. Dwi’n lwcus iawn i gael fy ffrindiau, aka, ‘Merched Manshyn’.Beth yw dy arbenigedd?
Celf – nes i gelf gain yn y brifysgol ac yn paentio’n gyson o hyd. Fi’n neud comisiynau anifeiliaid anwes a hefyd yn mwynhau paentio tirwedd Cymru. Gallwch weld fy ngwaith ar Facebook a Instagram – dan ‘Celf Cerys Pollock Art’!Y peth gorau am yr ardal hon?
Cael gymaint o deulu yn agos iawn, sydd bob tro yn barod i helpu pan fydd angen.Beth yw’r siopau annibynnol lleol wyt ti’n ymweld â nhw fwyaf aml a pham?
Creative Cove – y lle i fynd pan fydd angen unrhyw frwshys neu baent newydd arnaf (sydd lot rhy’ aml).
Cofiwch brynu eich copi chi o rifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar werth yn y siopau lleol.