Dathlu llwyddiannau Pêl Droed Ieuenctid Llambed

Gwobrwyo unigolion wedi blwyddyn hynod o lewyrchus

gan Lowri Gregson
20230730_143421

Dan 6

20230730_143825

Dan 8

20230730_144146

Dan 10

20230730_144700

Dan 11/12

20230730_145042

Dan 14

20230730_145910

Dan 16

20230730_150424

Ilan Alffi Gregson Chwaraewr yr Hyfforddwr Dan 6

20230730_144709

Osian Bird Chwaraewr yr Hyfforddwr Dan 11

20230730_144634

Dion Jacob Chwaraewr yr Hyfforddwr Dan 12

20230730_145926

Harri Rivers Chwaraewr yr Hyfforddwr Dan 16

20230730_145936

Nathan Davies Chwaraewr y Chwaraewyr Dan 16

20230730_145115

Ifan Jones Chwaraewr yr Hyfforddwr dan 14

20230730_144218

Gareth Ebenezer Hyfforddwr y Flwyddwyn Gwobrau Ceredigion

Ar ddydd Sul gwlyb Gorffennaf 30ain fe gynhaliwyd prynhawn o ddathlu llwyddiannau ieuenctid pêl droed Llambed. Roedd y clwb rygbi dan ei sang a diolch iddynt am goginio’r bwyd blasus ar gyfer pawb.

Fe gafodd pob un plentyn a oedd yn rhan o dîm pêl droed Llambed yn ystod y tymor het fwced er mwyn diolch iddynt am eu gwaith caled eleni. Roedd yn flwyddyn hynod o lewyrchus gyda tua 140 o ieuenctid wedi cofrestru i chwarae.

Yn arwain y prynhawn oedd Paul Jones a wnaeth ddiolch i bawb, yn enwedig yr hyfforddwyr am eu gwaith diflino yn ystod y tymor.

Mae’n rhaid enwi un hyfforddwr yn arbennig sef Gareth Ebenezer. Ar ddechrau mis Gorffennaf cynhaliwyd gwobrau Sir Ceredigion, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion mewn partneriaeth â Ceredigion Actif, ble enillodd Gareth wobr hyfforddwr y flwyddyn am ei waith gwirfoddol i glybiau pêl droed a rygbi. Er nad yw Gareth yn un sydd eisiau unrhyw sylw o gwbwl roedd hwn yn gyfle i ni fel clwb i’w longyfarch a diolch iddo am ei waith.

Roedd gwobrau arbennig yn ystod y prynhawn a enwebwyd gan yr hyfforddwyr. Enillwyr y gwobrau yma oedd:

Dan 6; Chwaraewr yr Hyfforddwr Ilan Alffi Gregson

Dan 8; Chwaraewr yr Hyfforddwr Erin Jones

Dan 10; Chwaraewr yr Hyfforddwr Ifan Jones

Dan 11; Chwaraewr yr Hyfforddwr Osian Bird

Dan 12; Chwaraewr yr Hyfforddwr Dion Jacob

Dan 14; Chwaraewr yr Hyfforddwr Ifan Jones

Dan 14; Chwaraewr y Chwaraewyr Osian Jones

Dan 16; Chwaraewr yr Hyfforddwr Harri Rivers

Dan 16; Chwaraewr y Chwaraewyr Nathan Davies

Da iawn i’r unigolion wnaeth ennill y gwobrau unigol ond mae POB unigolyn yn bwysig i’r clwb ac mae’n destun balchder i ni i weld y chwaraewyr yn datblygu ac yn ymroi 100% drwy gydol y tymor. Edrychwn ymlaen i’r tymor newydd.

Os ydych am wybod mwy am y Clwb dilynwch ni ar ein tudalennau; Facebook, Instagram a Twitter.