Dathlu statws Baner Werdd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Digwyddiad arbennig ar gampws y brifysgol yn Llambed

gan Dafydd Arwel Lloyd

Daeth Staff a Myfyrwyr ynghyd ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llambed yr wythnos diwethaf ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu statws Baner Werdd newydd y Brifysgol.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Neuadd y Celfyddydau ar Gampws Llambed, dadorchuddiwyd plac Baner Werdd gan yr Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor ac Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r drydedd brifysgol yn unig yng Nghymru i ennill statws y Faner Werdd. Derbyniodd y Brifysgol y dyfarniad yn dilyn asesiad a oedd yn cynnwys adolygiad manwl o reolaeth ddogfenedig prosesau tiroedd yr ystad a dulliau o reoli tir. Rhoddwyd sylw arbennig i arferion cynaliadwy a’r cynllun gweithredu bioamrywiaeth ac eco-systemau.

Dywedodd Kelly Williams, Pennaeth Gweithredol Ystadau a Chyfleusterau Gweithredol yn Y Drindod Dewi Sant:

“Rwyf wrth fy modd yn gweld y Faner Werdd yn chwifio ar ein campysau hardd. Gall y timau sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ein hamgylcheddau anhygoel fod yn falch o’r cyflawniad hwn ac mae’n nodi ymdrechion a all fynd heb i neb sylwi weithiau.

Drwy’r wobr hon, gallwn ddangos pa mor bwysig yw amgylcheddau’r campws i fioamrywiaeth leol a’r systemau eco a sut rydym yn cyfrannu’n gadarnhaol at gynlluniau gweithredu bioamrywiaeth Ceredigion.”

Dywedodd yr Athro Elwen Evans KC, Darpar Is-Ganghellor y brifysgol:

“Mae ein tiroedd a’n hamgylchedd yn rhan hanfodol o’r hyn sydd mor arbennig am ein Prifysgol. Hoffwn longyfarch a diolch i’r holl staff sy’n gwneud cyfraniad mor eithriadol at gynnal a chadw ein campysau.

“Rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn creu amgylchedd cynaliadwy a chroesawgar i’n holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Ein nod yw sicrhau bod cyfleusterau a mannau gwyrdd yn cefnogi ac yn gwella’r amgylchedd addysgu a dysgu ac yn rhoi myfyrwyr a’r gymuned wrth ei galon.”

Bellach yn ei thrydedd ddegawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.

Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Ni fu mynediad am ddim i fannau gwyrdd diogel o ansawdd uchel erioed mor bwysig. Mae ein holl safleoedd arobryn yn chwarae rhan hanfodol yn lles meddyliol a chorfforol pobl, gan ddarparu hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur.

“Mae’r newyddion bod campysau Caerfyrddin a Llambed y Drindod Dewi Sant wedi ennill Gwobrau’r Faner Werdd yn dyst i dîm anhygoel o staff tiroedd y brifysgol. Rydym yn falch iawn o allu dathlu eu llwyddiant ar lwyfan y byd.”