Dathlu’r Sulgwyn yn Llanbedr Pont Steffan

Capel Shiloh 22ain Mai am 7.30 o’r gloch

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3744
IMG_3744-1
IMG_3575-1

Capel Shiloh, Llanbedr Pont Steffan

IMG_3567

Capel Shiloh, Llanbedr Pont Steffan

Dewch i ddathlu’r Sulgwyn a chefnogi Hosbis Plant Tŷ Hafan. Dyma’r elusen sy’n darparu cysur, gofal a chymorth i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd ac sydd hefyd yn rhoi cymorth i’w teuluoedd. Arweinydd y noson yw’r Canon Aled Williams, Llanllwni a’r Llywydd yw Twynog Davies, Pentrebach. Trefnydd y noson yw Gerald Morgan, Tregaron.

Yr artistiaid yw Sara Davies (Prengwyn), Dafydd Jones (Ciliau Aeron) a Carys Ann Davies (Pontrhydfendigaid). Y cyfeilydd yw Neli Jones (Pontrhydfendigaid) a bydd Lois Williams (Cwmann) a David Davies (Gwarffynnon, Silian) yng ngofal y darlleniadau. Cawn ein diddanu hefyd gan Gôr Meibion Cwmann a’r Cylch tan arweiniad Elonwy Davies gydag Elonwy Pugh Huysmans yn cyfeilio. Bydd Côr Bytholwyrdd, côr cymysg Llanbed yn ein swyno tan arweiniad Rhiannon Lewis gyda Lois Williams yn cyfeilio.

Bydd gwledd o gerddoriaeth yng Nghapel Shiloh nos Lun 22ain Mai am 7.30 o’r gloch. Diolch yn fawr iawn i bob un sy’n cyfrannu at arlwy’r noson arbennig hon. Dewch i gefnogi – edrychwn ymlaen at eich gweld.

Am fwy o wybodaeth am Hosbis Plant Tŷ Hafan, ewch i’w gwefan:

Cartref Tŷ Hafan