Wel ble i ddechrau! Am ddiwrnod a hanner!

Codi swm anferthol o bron i £13,000 mewn Sioe a Thaith Geir yn Llanbed

gan Anthea C Jones

Ar Ddydd Sul yr 8fed o Hydref fe wnes i a Dai drefnu digwyddiad arbennig iawn yn nhref Llanbed, gyda chymorth Clwb Moduro Llanbed – Sioe a Thaith Geir gan gynnwys Raffl Fawreddog ac Ocsiwn – i godi arian ar gyfer Uned Cancr y Fron yn Ysbyty’r Tywysog Phillip yn Llanelli a’r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Deilliodd y digwyddiad o achos agos iawn at fy nghalon, gan ei fod yn dri deg mlynedd ers i mam gael gwared ar gancr y fron.

Roedd llawer o uchafbwyntiau i’r diwrnod, yr un pennaf oedd fod yr haul yn gwenu, roedd fel diwrnod o haf bach mihangel yn wir!  O ganlyniad ymlwybrodd tua 150 o geir i Gampws y Brifysgol, hen geir, ceir rali, ceir modern ac ambell un anghyffredin iawn! I’r pen petrol roedd yn wledd, gyda gwerth miliynnau o geir yn disgleirio am y gorau yn yr haul.

Uchafbwynt arall i’r dydd oedd bod Car Fformiwla 1 yn cael ei arddangos, diolch i haelioni James Belton o gwmni JB a’i fab Civil Engineering a ddaeth i’w arddangos. Profodd hwn i fod yn ychwanegiad poblogaidd iawn i’r diwrnod gyda pawb yn rhyfeddu bod Car fformiwla 1 yn Llanbed!

Cafwyd arwerthiant llwyddiannus iawn yn nwylo Andrew Morgan, Arwewrthwyr Morgan and Davies, gyda channoedd o bobl yn ymgasglu i gefnogi. Roedd yr arwerthiant yn cynnwys llawer o eitemau a roddwyd yn garedig gan y gymuned leol ac yn cynnwys eitemau fel taith awyren i 3 o bobl o amgylch Bae Ceredigion, tocynnau rygbi, penwythnosau bant, hamperi, talebau i enwi dim ond rhai!.

Ar ôl y Sioe teithiodd tua 120 o geir drwy lonydd cul yr ardal lawr i Glwb Rygbi Llandeilo am baned a chacen cyn teithio drwy gefn gwlad yn ôl i Lambed. Roedd y llwybr yn cynnwys rhai o’r ffyrdd sy’n cael eu defnyddio ar rali Bro Caron y Clwb Moduro yn flynyddol, ac i lawer roedd yn braf teithio drostynt yng ngolau dydd ac ar gyflymder mwy hamddenol! Unwaith i bawb gyrraedd yn ôl i Lambed roedd bwyd ar gael yn y brifysgol, ac yma cafodd pawb gyfle i gael clonc ac i adrodd eu hanesion am y dydd.

Yna i gloi’r diwrnod tynnwyd y Raffl, gyda phrif wobr o £500 yn roddedig gan y Clwb Moduro ymhlith gwobrau gwych eraill, eto’n roddedig gan fusnesau lleol a ffrindiau.

Yn sgîl y digwyddiad codwyd swm anferthol o bron i £13,000! gyda chyfraniadau’n dal i ddod! Does dim geiriau allaf i ddefnyddio i gyfleu’r diolch i bawb am wneud y diwrnod mor arbennig. Fel ma llawer ohonoch chi’n gwybod, dyw’r blynyddoedd diwethaf heb fod yn rhwydd, ac mae teimlo cefnogaeth teulu a ffrindiau, ac yn wir yr holl gymuned wedi bod yn amhrisiadwy i mi wrth drefnu’r digwyddiad. Diolchaf o waelod calon i bawb sydd wedi helpu, a chyfrannu mewn unrhyw fodd posibl.

Os oes rhywun dal eisiau cyfrannu, mae’r dudalen Just Giving dal ar agor tan diwedd y mis.

https://www.justgiving.com/crowdfunding/CarShow

Diolch Anthea