Yn gynnar ar fore Dydd Llun, 8fed o Fai, 2023, dechreuon ni, 17 o ddisgyblion Blwyddyn 6 Ysgol y Dderi, ar ein taith i Stansted. Roedden ni’n mynd i dreulio wythnos yng nghwmni ein ffrindiau newydd yn Ysgol Dalby, Kolding yn Nenmarc. Mae plant Ysgol Y Dderi wedi bod yn teithio i Ddenmarc ers dros ugain mlynedd yn ddi-dor, heblaw am y cyfnod clo wrth gwrs, felly dyma’r tro cyntaf ers tair mlynedd i ni ddychwelyd fel ysgol.
Ar ôl chwe’ awr o deithio mewn bws, cyrhaeddon ni Maes Awyr Stansted ac roedden ni’n teimlo’n gyffrous iawn. Dyma’r tro cyntaf i chwech ohonom ni hedfan. Cymerodd ryw awr a chwarter i ni gyrraedd Denmarc yn yr awyren cyn teithio awr mewn bws i Ysgol Dalby. Cawson ni ein croesawu gan athrawes yr ysgol, Trine, cyn bwyta swper a mynd i’n gwelyau.
Roedd yr ysgol yn Dalby yn dechrau am 8 o’r gloch y bore felly roedd angen codi’n gynnar. Ar ôl digon o frecwast, aethon ni i gwrdd â’n ffrindiau newydd. Roedden ni wedi synnu ar hyd y sied beics – ond fe ddaeth yn glir fod angen yr holl le gan fod y mwyafrif yn dod i’r ysgol ar gefn beic! Roedden nhw’n groesawgar iawn a chawson ni daith o gwmpas yr ysgol. Ysgol i blant rhwng 5 oed ac 16 oed oedd yr ysgol ac roedd dros 600 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol. Ar ôl mynd am daith o gwmpas yr adeiladau, cawson ni weld eu cyfleusterau allanol. Waw! Roedd ganddyn nhw 12 cae pêl-droed! Roedden ni wrth ein boddau. Roedd eu campfa yn anferthol hefyd. Roedd ganddyn nhw ddigonedd o le i ymarfer eu doniau chwaraeon.
Yna, cawson ni gyfle i chwarae cardiau, gwrando ar gyflwyniad o Ddenmarc a mynychu gwers Celf ac Ymarfer Corff. Dyma gyfle da i ni gyfathrebu a dysgu sgiliau newydd.
Am ddau o’r gloch y prynhawn, roedd y diwrnod ysgol yn dod i ben. Cawson ni gyfle i fynd adref gyda’n ffrindiau mewn parau. Profon ni fwydydd gwahanol a gweld sut roedd plant a phobl Denmarc yn treulio eu hamser sbâr yn eu cartrefi. Roedd pawb wedi derbyn croeso twymgalon. Nôl i’r ysgol aethon ni erbyn 8 o’r gloch er mwyn cael paratoi cael mynd i’r gwely.
Bore dydd Mercher, ac roedd hi’n amser i ni gyflwyno ein gwasanaeth i’r ysgol. Thema ein gwasanaeth oedd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd. Mae’r neges eleni yn ffocysu ar wrth-hiliaeth. Mae’n datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid Galw Nhw Allan. I orffen ein gwasanaeth, fe wnaethon ni ganu cân Hawliau Plant. Cawson ni ganmoliaeth uchel am ein cyflwyniad ac am safon ein canu.
Yna, bant â ni i’r dref gyfagos er mwyn ymweld â Chastell Koldinghus. Cerddon dros 160 o risiau er mwyn cyrraedd brig y tŵr a gwelon ni olygfa odidog o’r dref. Dysgon am hanes y dref ac am nifer o chwedlau diddorol. Ar ôl picnic ffein ar lawnt y castell, aethon ni i nofio ym mhwll nofio’r dref. Roedd e’n anferth gyda sleidiau, byrddau deifio, pwll tu fas ac amryw o byllau tu fewn. Roeddwn ni wrth ein boddau.
Yn ystod y prynhawn, aethon ni adref gyda’n ffrindiau i fwynhau cyfnod arall yn eu cartrefi. Aeth rhai i ymuno mewn hyfforddiant pêl-droed, a’r gweddill i chwarae, ymlacio a sgwrsio o dan yr haul tanbaid. Roedd ein rhieni o Ddenmarc wedi ein sbwylio ni’n rhacs!
Bore dydd Iau – ar ôl gwers gerddoriaeth, cawson ni gyfle i fynd i’r dref i siopa. Roedd hi’n braf cael treulio ychydig o amser yn pori trwy’r siopau a chael cyfle i brynu anrhegion.
Nôl â ni i’r ysgol wedyn er mwyn cael ymlacio am y nos. Gwylion ni ffilm, bwyta popcorn ac yfed siocled poeth.
Roedd y diwrnod mawr wedi cyrraedd, mynd i Legoland! Roedden ni wedi clywed cymaint o bethau da am y parc ac nid oedden ni wedi cael ein siomi. Roedd rhywbeth at ddant pawb, digonedd o reidiau cyflym, araf, cyfle i fynd yn wlyb a hyd yn oed acwariwm hyfryd. Mae pawb yn hoffi lego felly dyma oedd diwrnod i’r brenin i ni gyd. Rydyn ni i gyd am fynd nôl yna un diwrnod!
Daeth hi’n amser i ni ffarwelio â’n ffrindiau gan fod ni’n gadael yn gynnar yn y bore. Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau am oes ac mi fyddwn ni’n cadw mewn cysylltiad agos.
Yn gynnar ar fore dydd Sadwrn, daeth hi’n amser i ni ffarwelio â Dalby a dechrau ar ein taith am adref. Ar ôl siwrnai mewn bws ac awyren roedden ni adref yn Llangybi.
Roedd hi wedi bod yn wythnos arbennig. Cawson ni gyfle gwych i brofi diwylliant Denmarc ar ei orau. Roedd yr ysgol wedi bod yn groesawgar iawn ac rydyn ni dal mewn cysylltiad agos.
Rydyn ni mor ddiolchgar am y cyfle ac mi gofiwn ni’r atgofion am byth.
Adroddiad gan ddisgyblion Blwyddyn 6, Ysgol y Dderi 2023.