Dewch i ni fynd “Ar dy Feic”!

Beiciau statig awyr agored sy’n cynhyrchu pŵer i wefru eu dyfeisiau symudol

gan claire hamer
Lampeter-Launch-of-On-your-Bike

Lansio’r beiciau ym Mharc yr Orsedd

Lampeter-Launch-of-On-your-Bike

Lansio’r beiciau ym Mharc yr Orsedd

Mae ‘Ar dy Feic’ yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC), a ariennir gan Cynnal y Cardi, sydd â’r nod o annog gweithgaredd corfforol ymhlith pobl ifanc trwy roi’r cyfle iddynt ddefnyddio beiciau statig awyr agored sy’n cynhyrchu pŵer i wefru eu dyfeisiau symudol.

Mae’r beiciau wedi’u gosod ym Mharc yr Orsedd (Llanbedr Pont Steffan), Cae Sgwar (Aberaeron) a Gerddi Fictoria (Aberteifi) a byddant yn galluogi’r cyhoedd i gynhyrchu ynni drwy bŵer pedal i wefru eu ffonau symudol, tabledi ac iPads, gan gysylltu hamdden awyr agored â thechnoleg ac ynni adnewyddadwy, ac annog ffordd o fyw mwy egnïol ac iach.

Ar hyn o bryd mae IGGC yn ymgysylltu â’r cyhoedd, ysgolion lleol, colegau a chlybiau ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o’r beiciau sefydlog a’r manteision iechyd a lles, yn ogystal â manteision amgylcheddol, y beiciau. Mae IGGC hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn ymchwil i’r defnydd o’r beiciau, y pŵer a gynhyrchir ac effeithiau lles defnyddio’r beiciau, gan edrych i recriwtio pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i gymryd rhan. Felly, os ydych rhwng 14 a 25 oed ac yn dymuno bod yn wirfoddolwr neu os hoffech fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Claire Hamer, Swyddog Ymchwil a Datblygu, IGGC ar 01970 628962 / claire.hamer@wales.nhs.uk