Dewis Swyddogion Carnifal Llanybydder

Nosweth i ddewis swyddogion Carnifal Llanybydder

gan Siona Evans

Ar nos Wener 21ain o Ebrill cynhaliwyd noson ddawns i ddewis swyddogion Carnifal Llanybydder yng Ngwesty Cross Hands, Llanybydder.

Roedd yn noson lwyddiannus dros ben a chafodd y plant amser da.

Llongyfarchiadau i’r canlynol am gael eu dewis i fod yn swyddogion:

Brenhines y carnifal – Cadi Davies;

Morwynion – Loti Mumford ac Alaw Edwards;

Brenhines y tylwyth teg – Lenna Lloyd;

Tywysog – Jac Williams

Bydd wythnos y carnifal yn dechrau nos Lun 3ydd o Orffennaf yna y carnifal ar 8fed o Orffennaf, gorymdaith i ddechrau am 12.30yp o faes parcio Y Llew Du ac i ddechrau yng Nghae Rygbi Llanybydder am 1.00yp. Thema’r gwisgoedd yw’r ‘Pop Idols’.

Noson y carnifal yng Nghlwb Rygbi Llanybydder – bydd adloniant i’r plant am 6.00yh ac yna Ryan Simpson i’r oedolion o 9.00yh tan yr hwyr.