Diolch yw ein cân – Eglwys San Pedr, Llanybydder

Gwasanaeth Diolchgarwch a diolch am wasanaeth Eurwyn Davies.

gan ELERI THOMAS
eileen-ac-elin-cynhaeaf-2023

Yr Arch-Ddiacon Eileen yn cyflwyno tusw o flodau i’r gantores Elin (Hughes)

ffenest-foodbank-2023

Casglwyd bwyd ac arian ar gyfer Fanc Bwyd Llanbedr Pont Steffan.

eurwyn-a-renee-mainc

Eurwyn a Renee wrth eu bodd yn eistedd ar y fainc. Heather Warden y ficer wrth gefn ac Eileen.

mainc-eurwyn

Y fainc wedi’i saernio’n gelfydd.

MYNWENT-STRYD-Y-FARCHNAD-

Mynwent Stryd Y Farchnad, Llanybydder.

MYNWENT-FFORDD-CAERFYRDDIN

Mynwent Ffordd Caerfyrddin, Llanybydder.

GIAT-MYNEDFA-FFORDD-CAERFYRDDIN

Giat ar fynedfa mynwent Ffordd Caerfyrddin, Llanybydder.

20230924_153613

Pobl o’r Amerig yn perthyn i’r uchod. Carreg fedd ym mynwent ffordd Caerfyrddin.

DANIEL-

Carreg fedd ym mynwent Sryd y Faechnad. Nifer yn ymweld a’r ddwy fynwent yn hel achau.

cwrdd-diwethaf-Bill

Eurwyn ar y chwith fel Warden yr Eglwys yn ystod Gwasanaeth ymddeol y Parch Bill Fillery. Hefyd yn y llun Liz Fillery a Mrs Jean Davies Warden y F

IEUAN-13

Eurwyn gyda’i ffrindiau sy’n helpu ym mywyd yr eglwys.

kay-a-sheila

Sheila, aelod gweithgar Eglwys Llanybydder a’i merch Kay’n mwynhau eistedd ar y fainc ym mynwent Stryd y Farchnad, Llanybydder. Sylwer pa mor daclus yw’r tir wrth gefn!

Cynhaliwyd Gwasanaeth Diochgarwch Eglwys San Pedr, Llanybydder ar y degfed o Fedi 2023 dan ofal yr Arch-Ddiacon Eileen Davies.

Noson i gyfleu diolch trwy gân.

Cafodd pawb fendith wrth wrando ar lais swynol y gantores Elin Hughes ac wrth ganu caneuon adnabyddus i’r cynhaeaf i gynnwys, Beth yw mesur glas y nen? Fy Arglwydd Dduw & Y mae Duw’n neffro’r gwanwyn.

Casglwyd nwyddau ar gyfer Banc Bwyd, Llanbedr Pont Steffan.

Diolch y Eurwyn!

Uchafbwynt y gwasanaeth oedd cyflwyno mainc i Mr Eurwyn Davies fel arwydd o werthfawrogiad am ei waith diflino’n ymwneud â bywyd Eglwys San Pedr, Llanybydder, dros ystod o hanner canrif.

Bu Eurwyn ynghlwm â’r canlynol:

  1. Cynnal a chadw’r ddwy fynwent, un sy’n amgylchynu’r Eglwys ar Stryd y Farchnad, Llanybydder a’r llall ar gyrion y Pentref ar Heol Caerfyrddin.
  2. Materion cynnal a chadw’n gyffredinol.
  3. Wedi ymwneud â’r swyddi o Warden yr Eglwys ac Warden y Ficer ar sawl achlysur.
  4. Yn ofalwr ar Neuadd yr Eglwys cyn ei gwerthu i Gyngor Sir Caerfyrddin.
  5. Ymgymryd â gofal bugeiliol a chynnig help llaw i’r henoed, y methedig a’r unig yn barhaus.  Yn ffrind i bawb.

Nodir ei ymdrechion yng nghofnodion cyfarfodydd yr Eglwys:

Cofnodion Festri’r Pasg  Ebrill 1968 – Y Parch Cyril Jones Ficer

“Yn bresennol: Dr E. Casburn Davies, Mr Eurwyn Davies, Mrs Jean Davies, Miss Nancy Davies (Llwynteg), Mrs Evans (Ormond Dale), Mr Dave Jones (Wenallt), Miss Freda Jones, Mrs Leishman, Mrs Mary Rees (Neuadd Fryn), Miss Joyce Watkin, Mr Eddie Williams.

Diolch yn arbennig  i Mr Eddie Williams a Mr Eurwyn Davies ac i’r holl aelodau sydd wedi cynorthwyo i gadw’r fynwent yn daclus”.

Cofnodion Festri’r Pasg Ebrill 1972 – Y Parch Cyril Jones Ficer

“Diolchodd y Parch Cyril Jones i Mr Eurwyn Davies, Gofalwr y Neuadd am ei lafur caled parthed y Neuadd.  Roedd yr adeilad yn sicr yn edrych yn anhygoel!”

Cofnodion Festri’r Pasg Ebrill 2005 Y Parch Bill Fillery Ficer

“Diolchodd y Parch Bill Fillery i Mr Eurwyn Davies am y gwaith cynnal a chadw cyffredinol o amgylch yr Eglwys a thorri gwair, ynghyd â’i griw ffyddlon o gynorthwywyr sef Emlyn, Richard, Peter, Owen, Hem, Wyn, Lyn a Meurig.”

Cafwyd sylwadau tebyg gan y Parch. Delyth Bowen, y Parch. Suzy Bale a’r Parch. Evan Griffiths a ysgrifennodd, “roedd y mynwentydd yn edrych yn eithriadol o dda”.

Cododd materion o bryd i’w gilydd ac ar un achlysur dihangodd defaid o gae cyfagos i Fynwent Ffordd Caerfyrddin a dechrau bwyta’r blodau!

Hefyd materion yn ymwneud â pharcio ceir ar fynedfa Mynwent Ffordd Caerfyrddin.  Roedd rhaid ceisio gwasanaeth y Cynghorydd Sirol William Evans ac arddangoswyd arwyddion yn gwahardd yr arfer hwn gan bobl nad oedd yn defnyddio’r fynwent.

Soniodd Eurwyn am ymwelwyr â’r fynwent yn ceisio bedd aelod o’r teulu wrth hel achau. Gallai gynnig cymorth ar sawl achlysur yn seiliedig ar ei wybodaeth o’r ardal.  Byddai uwchlwytho lluniau o gerrig bedd ar y safle “Findagrave.com” hefyd yn adnodd defnyddiol i’r rhai sy’n chwilio am gysylltiadau teuluol.

Syrpreis aruthrol oedd i Eurwyn a Renee pan ofynnodd yr Archddiacon Eileen iddynt gamu ymlaen yn ystod y Gwasanaeth Cynhaeaf, i dderbyn  y rhodd o fainc.  Cyfrinach na ddatgelwyd ond i lawn dwrn!

Dyluniwyd y fainc wedi’i saernio’n gelfydd gan Mr Sean Pinches i gynnwys manylion giatiau’r mynwentydd.

Gobeithio caiff Eurwyn, Renee, Cynthia, Jason, Miriam, Charlie ac eraill fwynhad wrth eistedd ar y fainc am flynyddoedd lawer i ddod.

Wrth edrych ar y fainc cofiwn am waith yr Iesu fel Saer sy’n enghraifft o ostyngeiddrwydd, o wyleidd-dra a gwasanaeth.  Gallwn ni gyd gytuno bod Eurwyn wedi efelychu’r nodweddion hyn.