Diolch enfawr i Gôr Meibion Cwmann a’r cylch

Gerthfawrogiad o berfformiad Côr Cwmann ym mharti pen-blwydd un o’r aelodau

gan lena daniel
929A8C5B-B820-47E0-A260

Ysgrifennaf yma ar ran Huw fy mrawd, Alison a’r teulu i ddiolch i holl aelodau Côr Cwmann am y dechreuad gwych i ddathliadau parti Huw yn 60 yn Llanrhystud ym mis Ebrill.

Yn gynta diolch am gadw’r gyfrinach tan yr eiliad gerddoch chi mewn i’r adeilad! ‘Roedd y ‘build up’ mor ddramatig wrth weld ‘Y Maroon Army’ yn cerdded o’r pellter tuag at y patio doors. Fe glywes cwpwl o’r tourists o’dd yn eistedd tu fas yn gweud “What on earth is happening?”

Dagrau hapus o’dd gyda Huw pan welodddd e chi gyd yn cerdded mewn gyda llaw!!!

Diolch arbennig i’r ddwy Elonwy am ddewis rhaglen mor hwylus ac angerddol. Mi wnaeth y caneuon blesio pob oedran – o 8 mis oed lan i 87 blwydd oed!!!

Rhaid canmol y ddwy hefyd am ddenu y rhai lleia’ mas i ganu/weiddi gyda chi! (Nid bod angen rhyw lawer o berswâd!) ‘Rwyn siwr bydde ambell i arweinyddes a chyfeilyddes yn edrych yn gas wrth glywed lleisiau “estron” yn amharu ar y perfformiad ond annog y merched i ganu gydag angerdd a wnaeth y ddwy whara teg! Fe sylweddolom wrth edrych nôl dros y fideos faint oedd aelodau’r côr yn helpu’r plant i fod yn gartrefol yn eu plith! Diolch am ‘na ‘fyd fechgyn!

Go lew chi am ‘fabwysiadu’ Arek y Chef am ychydig hefyd! “It was the best day of my life” oedd ei eiriau wrth fynd nôl at y bwyd!  Rhaid diolch i Kees am roi fenthyg jaced y côr iddo yn yr ail hanner. Gobeithio bod ddim gormod o arogl bwyd arni pan gafodd hi nôl!!!
Diolch arbennig iawn am y cyfle i Huw a Rhys, ei fab ganu Myfanwy gyda chi – profiad llawn emosiwn i’r 2.

‘Roedden ni fel teulu yn ddiolchgar iawn i rhai o’r aelodau am rannu atgofion o Dad gyda ni ar ôl y perfformiad hefyd. Fel gyhoeddes i yno ‘roedd Côr Cwmann yn bwysig iawn iddo a bob nos Fercher yn sanctaidd oherwydd yr ymarferion. ‘Doedd dim byd a dim neb fod amharu ar rheiny!  Eto o edrych ar y fideos fe welwyd tair cenhedlaeth o’r teulu yn canu gyda chi ar y diwedd – bydde Dad MOR browd!

Llongyfarchiadau enfawr i Geraint am gyflwyno dy gyngerdd cyntaf fel Cadeirydd y côr mor gysurus a hwylus! ‘Roeddet yn hollol gartrefol yn dy swydd newydd ac yn sicr mae dyfodol Côr Cwmann mewn dwylo saff gyda ti wrth y llyw!

Yn olaf diolch am yr anrhegion a gyflwynoch i Huw – nid oedd angen ond ‘roeddent wedi plesio fy mrawd yn fawr!

I orffen rhaid dyfynnu rhyw fenyw o Dudley West Midlands a o’dd yn sefyll yn y maes carafannau dros y penwythnos ac yn gwrando tu fas arnoch yn canu “I’ve never heard a choir singing live before – they were so amazin’, they gave me goosebumps”. Sdim gwell clôd i gael bois!!!

Gyda llaw rwy’n credu fod pawb wedi mwynhau eich cyflwyniad siwt gymaint fe godoch galonnau’r gynulleidfa a’u hysbrydoli i gyfrannu’n hael tuag at elusennau Ysbyty Felindre a Mind Aberystwyth yn lle anrhegion – cyfanswm o £1000!!!

Pob dymuniad da i Gôr Cwmann yn y dyfodol – a rwy’n gobeithio dala lan gyda chi yn ystod dathliadau 60 blwyddyn o ganu bendigedig!  Llongyfarchiadau!

Cofion cynnes i chi gyd.  Diolch eto o waelod calon a diolch am gyfraniad hael y côr tuag at Ysbyty Felindre.