Diolch Odwyn Davies

Anrhydeddu dyn gofalgar am gynrychioli Ward Llangybi dros y blynyddoedd.

Eryl Evans
gan Eryl Evans

Yn ddiweddar ar ôl tipyn o drefnu fe ddaeth ein tair cyngor cymuned sef Llangybi, Nantcwnlle a Llanfair Clydogau sydd o fewn ward Llangybi at ei gilydd i ddiolch i Mr. Odwyn Davies am ei wasanaeth di-flino fel ein cynghorydd cymunedol lleol. Yn un o’n hoff gymeriadau o fewn yr ardal mi ddaeth Odwyn yn gynghorydd i Langybi yn 1987 ac fe aeth ymlaen i ddod yn gynghorydd Sir yn 1995.

Mewn cinio blasus yn ‘Y Talbot’ Tregaron fe gyflwynwyd Odwyn gan lun a wnaethwyd allan o ffelt gan un o’n artistiad lleol, Ali Scott. Galwyd y llun yma yn briodol iawn yn ‘Ysbryd y Gymuned’ a gweler isod y pennill ac ysgrifenwyd ar ei gyfer.

I Odwyn, ysbryd ein cymuned,
I’r galon fawr, a phob adduned
Yn ein bro, bu pob cefnogaeth,
Trochi llewys a’ch gweledigaeth.

Diolch yn fawr
Cyngor Cymuned Llangybi, Cyngor Cymuned Llanfair Clydogau a Chyngor Cymuned Nantcwmlle.  Chwefror 2023

Diolch Odwyn am wylio drostom ni gyd mor ofalgar dros y blynyddoedd a dymunwn ymddeoliad hir ac hapus i chi a Mrs Ann.