Diweddaraf y cystadlu yn Eisteddfod Ysgol Bro Pedr!

Creuddyn, Dulas a Theifi yn cystadlu’n frŵd heddi i ennill Eisteddfod Ysgol Bro Pedr.

gan Ifan Meredith
COVER-FIT-C360

Hynt a helynt Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2023 ar ei newydd wedd! Mae yna wledd o gystadlu i ddod o lwyfan yr eisteddfod.

16:57

Mae’r buddugwyr wedi ymuno â’u capteiniaid ar y llwyfan. Dyma rhai canlyniadau ychwanegol.

Llefarwraig y Dydd – Betrys Dafydd, Creuddyn

Cantores Orau’r Dydd – Megan Biddulph, Teifi

Actor Gorau’r Dydd – Sean Wood, Teifi

Cystadlaethau Gwaith Cartref

Dulas – 144

Creuddyn – 149

Teifi – 186

Yr unigolyn gyda’r nifer uchaf o bwyntiau yn y gwaith cartref: Fflur Meredith, Dulas

Cystadlaethau Llwyfan

Teifi – 140

Creuddyn – 145

Dulas – 148

Yr unigolyn gyda’r nifer uchaf o bwyntiau ar y llwyfan: Megan Biddulph, Teifi

Canlyniadau Terfynol

Creuddyn – 289 (Capteiniaid – Gruff ac Elen)

Dulas – 297 (Capteiniaid – Ifan, Martha ac Iestyn)

Teifi – 326 (Capteiniaid – Megan a Sion)

16:36

Capteiniaid
Capteiniaid ac Is-Gapteiniaid

Mae’r capteiniaid ar y llwyfan yn disgwyl y canlyniadau gan Mrs Jane Wyn.

16:22

I gloi’r cystadlu, y corau cymysg.

16:03

Wrth i’r Osgordd adael y llwyfan, ymbaratown ar gyfer cystadleuaeth y côr.

15:58

image-15

Yn cyfarch y beirdd buddugol mae Ffion ac Ifan a chenir cân y cadeirio gan Gruff.

15:48

image-13

Cadair Hŷn

Testun: O’r Newydd

1af – Gobaith – Elen Morgan, Creuddyn

Cadair Iau

Testun: Taith

Cafwyd 40 ymgais yn y gystadleuaeth hon.

1af – Draig Goch – Efa Lloyd-Jones, Dulas

Carwen Richards
Carwen Richards

Cadair Hŷn
Testun: O’r Newydd
4ydd – Breichled Arian – Swyn Tomos, Creuddyn
3ydd – Seren Las – Martha Thomas, Dulas
2ail – Siaradwr o Fri – Ifan Meredith, Dulas
1af – Gobaith – Elen Morgan, Creuddyn

Cadair Iau
Testun: Taith
Pwyntiau Safon: Kiwi – Mari Evans, Dulas/ Yogi Bear – Lily Evans, Teifi/ Sbectol – Megan Lewis, Dulas/ Jeremy Fitzgerald – Grace Orme, Creudyn/ Robin Goch – Glesni Rees, Teifi
3ydd – Dros y Siop – Fflur Meredith, Dulas
2ail – Seren Aur – Elen Sisto-Jones, Creuddyn
1af – Draig Goch – Efa Lloyd-Jones, Dulas

Carwen Richards
Carwen Richards

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi mai Bardd y Gadair Hŷn, Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2023 yw Elen Morgan o dŷ Creuddyn

Mae Elen yn fardd talentog, yn wir, enillodd ei chadair gyntaf yn Eisteddfod Ysgol Gynradd Llanwenog yn 2017 a hi oedd y person cyntaf i ennill Cadair Eisteddfod Ysgol Dyffryn Cledlyn yn 2018. Yn fwy diweddar, enillodd gadair Eisteddfod Capel y Groes a chael yr anrhydedd o gael ei chadeirio gan Mererid Hopwood y beirniad, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron Awst llynedd. Mae Elen yn aelod brwd o CFfI Llanwenog ac mae hi wrth ei bodd yng nghwmni yr ast ddefaid, Nel ond ei phrif ddiddordeb wrth gwrs yw coginio a gobaith Elen yw dilyn llwybr Bwyd a Maeth yn y dyfodol.

Yn ôl y beirniad, Mrs Delor James;
“Dyma gerdd gryno, ansoddeiriol ac oherwydd i mi gael adeiladwaith pwrpasol y ddoe, heddiw, ’fory, mae’n gerdd dynnach. ’Dyw hi ddim yn gerdd gymhleth (nid bod angen iddi fod), mae lle i fwy o nodweddion arddull eto, ond gwelais yma ôl meddwl a pharch at waith. Unigolyn yn brwydro â chyffuriau sydd yma a’r ‘rehab’ yn y clo yn cynnig ‘gwawr o obaith…./ yn ddechrau newydd.’
Felly, llongyfarchion i Gobaith, bardd y Gadair Hŷn, Eisteddfod Ysgol Bro Pedr, 2023.”

Yn yr un modd, pleser yw cyhoeddi mai Bardd y Gadair Iau, Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2023 yw Efa Lloyd-Jones o dŷ Dulas
Mae Efa yn aelod poblogaidd a gweithgar o 7N ac wedi ymroi yn llwyr i’w heisteddfod gyntaf yn adran hŷn Bro Pedr a thrwy hyn – mae Dulas ar ben eu digon yma prynhawn yma. Diddordebau Efa yw canu’r piano a chwarae pêl-droed ac mae’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Cwmann. Ond a oeddech chi’n sylweddoli bod Efa yn dipyn o gamster yn karate ac wedi hawlio’r gwregys brown?! Gwell i ni gadw pellter pan welwn Efa yn ei siwt wen! Llongyfarchiadau fil Efa a gobeithio y byddi di’n dal ati i drin geiriau.

Yn ôl y beirniad, Mrs Delor James;
“O’r darlleniad cyntaf, arhosodd cerdd a thaith Draig Goch ar fy meddwl. Mae’n gerdd dynn, ddi-wastraff. Ceir adeiladwaith bendant a chyflythreniad pwrpasol. Dianc rhag rhyfel sydd yma a thaith tuag at obaith a gwell dyfodol. Mae yma frys a phanic, ceir yma orfoledd hefyd. Mae’n werth i chi glywed y gerdd hon…..
Mewn cystadleuaeth gref a llawn, pleser yw cyhoeddi mai Draig Goch yw bardd y Gadair Iau, gyda phob clod.”

Mae’r sylwadau wedi cau.

15:30

image-10

Mae Seremoni’r Gadair newydd ddechrau. Y beirniad eleni yw Mrs Delor James.

15:19

Ymlaen i gystadleuaeth y Parti Bechgyn!

Carwen Richards
Carwen Richards

🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Dulas
🥈 2ail – Teifi
🥉 3ydd – Creuddyn

Mae’r sylwadau wedi cau.

15:07

Mae’r partïon merched nawr wedi perfformio.

Carwen Richards
Carwen Richards

🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Creuddyn
🥈 2ail – Teifi
🥉 3ydd – Dulas

Mae’r sylwadau wedi cau.

14:51

9805AB1D-3A6E-4386-8E62
2E449F48-AD7C-4052-AE6C

Ymlaen i’r Ddawns Agored.

Carwen Richards
Carwen Richards

🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Creuddyn
🥈 2ail – Dulas
🥉 3ydd – Teifi

Mae’r sylwadau wedi cau.