🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Luned a Gruff, Creuddyn
🥈 2ail – Ifan a Trystan, Dulas
🥉 3ydd – Megan a Steffan, Teifi
Hynt a helynt Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2023 ar ei newydd wedd! Mae yna wledd o gystadlu i ddod o lwyfan yr eisteddfod.
Prif Seremoni’r bore sef Coroni’r bardd Saesneg.
Tybed a fydd yna deilyngdod?
Yng nghystadleuaeth y Stori a Sain, bu tri phâr bywiog yn ein diddanu sef Gruff a Luned, Megan a Steffan, Ifan a Trystan.
Yng nghystadleuaeth y Llefaru Cymraeg Hynaf, ymddangos pedwar o ddisgyblion ar y llwyfan sef Martha, Gruff, Ifan a Betrys.
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Betrys Dafydd, Creuddyn
🥈 2ail – Ifan Meredith, Dulas
🥉 3ydd – Martha Thomas, Dulas a Gruff Dafydd, Creuddyn
Ymlaen â ni i’r gystadleuaeth Unawd Bechgyn Hynaf. Y tri gŵr doeth a ymddangosodd ar y llwyfan oedd Ifan, Gruff a Rhodri.
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Ifan Meredith, Dulas
🥈 2ail – Gruff Dafydd, Creuddyn
🥉 3ydd – Rhodri Williams, Dulas
Cystadleuaeth y Grŵp Llefaru Iaith Gyntaf sydd nesaf. Braf gweld cynifer o ddisgyblion yn cynrychioli eu tai.
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Creuddyn
🥈 2ail – Dulas
🥉 3ydd – Teifi
Yn cystadlu yn yr Unawd Merched Hŷn oedd Martha, Megan a Ffion.
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Megan Biddulph, Teifi
=🥈 Cydradd 2ail – Martha Thomas, Dulas a Ffion Davies, Teifi
Cafwyd 60 ymgais yng nghystadleuaeth y limrig. Dyma’r limrigau ddaeth i’r brig:
1af – Betrys, Creuddyn
A glywsoch am gig Dafydd Iwan?
Dechreuodd e heidio ar lwyfan.
Fe gwympodd o’i dra’d
Wrth ganu “I’r Gad” –
Ffaelodd e gyrraedd y gytgan!
2ail – Ifan, Dulas
Mae rheolau gramadeg yn boendod
Edwina sy’n gweiddi mewn cryndod
Rhai weithiau yn gwrando
Gyd o ni yn actio
Lessons Welsh yn digon o syndod!
= 3ydd – Luned, Creuddyn
Un noson yng nghanol sioe Grease
Roedd Meleri Morgan llawn chwys
Elaine yn sal
Y sioe ar chwal
Gwawr ddaeth i achub ar frys!
= 3ydd – Lowri, Teifi
A glywsoch am gig Dafydd Iwan?
Dau ddyn wnaeth ddechrau bigitian
Yr un cyntaf fel cawr
A’r llall ar y llawr
A’r cyfan cyn cyrraedd y gytgan!
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Betrys Dafydd, Creuddyn
🥈 2ail – Ifan Meredith, Dulas
🥉 3ydd – Luned Jones, Creuddyn a Lowri Rees, Teifi
Uchafbwynt y dydd i nifer – y sgetsys! Pwy aiff â hi?
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Creuddyn
🥈 2ail – Dulas
🥉 3ydd – Teifi
Yn cystadlu yn y ddeuawd agored mae Betrys a Gruff, Megan a Jess, Brychan a Trystan.
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Megan a Jess, Teifi
🥈 2ail – Betrys a Gruff, Creuddyn
🥉 3ydd – Brychan a Trystan, Dulas
Mae Rhun, Brychan a Trystan newydd ein swyno yn yr unawd bechgyn iau. Gwych!
🏅CANLYNIAD 🏅
🥇 1af – Brychan Williams, Dulas
🥈 2ail – Trystan Evans, Dulas
🥉 3ydd – Rhun Potter, Teifi