Uchafbwyntiau diwrnod olaf Eisteddfod 2023.
Lowri Elen yw’r olaf i gystadlu yn y Sioe Gerdd.
Y trydydd cystadleuydd yw Gwennan Mars Lloyd.
Mathew Tucker yw’r un nesaf.
Daniel O’Callaghan yn agor y gystadleuaeth Unawd Sioe Gerdd.
Un o swyddi pwysicaf yr eisteddfod yw llenwi tystysgrifau, talu’r gwobrau a llenwi’r llyfr canlyniadau.
Dyma Rhian, Llinos a Carys sydd wrthi am y slot olaf yr eisteddfod.
Diolch i bawb sydd wrthi drwy’r penwythnos.
Tair wedi dod i’r llwyfan yng nghystadleuaeth y Canu Emyn dan 21 oed.
Canlyniad ar unrhyw offeryn cerdd heblaw’r piano 12-19
1. Alwena Mair Owen
2. Leah Mererid Roberts
Canlyniad Deuawd dan 19
1. Alwena a Gwennan
2. Brychan a Trystan
Cystadleuaeth yr Unawd Cerdd Dant 12-19 oed gyda thair yn dod i’r llwyfan.
Ela Mablen y cystadleuydd cyntaf yn y gystadleuaeth Unawd Cerdd Dant 12-19.
Diolch i Gwawr Taylor ein telynores am ei gwaith heddi.
Diolch yn fawr i’n beirniaid am eu gwaith drwy’r penwythnos.