Dydd Llun yn fyw o Eisteddfod RTJ Llanbed

Diwrnod arall o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed. 

gan Ifan Meredith

Uchafbwyntiau diwrnod olaf Eisteddfod 2023.

01:11

IMG_3297

Cloi penwythnos gwych o gystadlu wrth gyd-ganu’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau.

Diolch i bawb a fu’n cyfrannu i’r Eisteddfod ac i’r trefnwyr am rediad llyfn drwy gydol y penwythnos.

Wedi colli rhywbeth? Beth am ddal lan gyda straeon y penwythnos ar flogiau byw Clonc360 ar y wefan?

00:40

Barry ac Efan yn ennill y ddeuawd dros 19. 

00:38

IMG_6134

Canlyniadau ola’r Eisteddfod:
Canlyniad y Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed:
1. Carol Mair, Henllan
2. Elliw Dafydd, Silian
3. Daniel O’Callaghan, Pwll-Trap

Yr Her Unawd dros 21 oed:
1. Barry Powell
2. =Stephanie Harvey Powell
2. =Efan Williams
3. Robert Jenkins

00:05

Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod yn diolch i bawb am eu cymorth yn ystod Eisteddfod RTJ Llanbed 2023 ac yn dymuno ‘Bore Da’ i bawb!

23:59

Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod, Dorian Jones yn cyflwyno’r camlyniadau olaf cyn canlyniadau’r Brif Gystadleuaeth Lefaru ac Her Unawd dan 21 oed. 

Y ddeuawd dros 19 oed:

1. Efan a Barry
2. Lowri Elen a Sara Elan

Alaw Werin dros 19 oed:

1. Daniel O’Callaghan

2. Lowri Elen

23:48

Cystadleuydd olaf yw Efan Williams. 

23:47

Y cystadleuydd olaf yn yr Her Unawd dros 21 oed yw Efan Williams a chystadleuydd yr Eisteddfod. 

23:44

Arweinydd olaf y nos Lun yw’r Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod sef Dorian Jones. 

23:41

Llefarydd olaf Eisteddfod Rhys Thomas James 2023 yw Daniel O’Callaghan. 

23:40

Y cystadleuydd olaf yn y Brif Gystadleuaeth Lefaru dros 21 oed yw Daniel O’Callaghan yn llefaru ‘Dau Hanner’.