Dydd Sadwrn o Eisteddfod RTJ Llanbed

Dilynwch holl gystadlu’r dydd ar flog byw Clonc360.

gan Ifan Meredith

Mae’r llwyfan wedi ei osod a phawb yn barod am wledd o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed.

20:53

Owain Davies yw’r un nesaf. 

20:52

Cystadleuaeth newydd i Eisteddfod Llambed yw Dweud eich Dweud a Delyth yw’r cystadleuydd cyntaf. 

20:42

Soar Bach oedd yr olaf. 

20:39

Cystadleuaeth Ensemble Lleisiol newydd ddechrau. 
Pam Lai oedd y cyntaf.

20:38

Enillydd Llefaru Uwchradd. 

19:49

Cloi Seremoni’r Coroni wrth gyd-ganu yr anthem genedlaethol. 

19:46

Cyflwynir y ddawns flodau eleni gan Ysgol Carreg Hirfaen. 

19:41

Sara Elan yn darllen casgliad o gerddi Gareth Lloyd James, enillydd y Goron yn Eisteddfod RTJ Llanbed. 

19:31

Caib a Rhaw sef Gareth Lloyd James o Rhydyfelin ond yn frodor o Gwman yw enillydd y Goron. Gofynion y gystadleuaeth oedd i ysgrifennu casgliad o gerddi rhydd ar y testun ‘Hadau’. 

“Gweld arwyddocad mewn digwyddiadau pob dydd”
Cafodd ganmoliaeth gan y beirniad am ei gerddi.

19:24

Beirniad Llên yr Eisteddfod, Y Prifardd Tudur Dylan Jones yn traddodi’r feirniadaeth yn ystod Seremoni’r Cadeirio.