Ymddiheuriadau mawr – Tesni Elen Peers.
Mae’r llwyfan wedi ei osod a phawb yn barod am wledd o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed.
Caib a Rhaw sef Gareth Lloyd James o Rhydyfelin ond yn frodor o Gwman yw enillydd y Goron. Gofynion y gystadleuaeth oedd i ysgrifennu casgliad o gerddi rhydd ar y testun ‘Hadau’.
“Gweld arwyddocad mewn digwyddiadau pob dydd”
Cafodd ganmoliaeth gan y beirniad am ei gerddi.
Beirniad Llên yr Eisteddfod, Y Prifardd Tudur Dylan Jones yn traddodi’r feirniadaeth yn ystod Seremoni’r Cadeirio.
Cystadleuaeth Ymgom neu Sgets a’r unig gystadleuwyr yw Ela a Swyn yn cystadlu.
Yr Hybarch Eileen Davies yn llywyddu.
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Rhys Bebb Jones yn cyflwyno’r llywydd Yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi.
Diolch i Efan am seinio’r corn gwlad, Elen a Martha am gyfarch y beirdd ac Ela Mablen am ganu cân.
Enillydd Tlws Ieuenctid yw Alaw Fflur Jones, Felinfach.
Enillydd Cadair dan 25 oed yw Tesni Haf Roberts, Rhosllanerchgrugog
Y Beirniad Tudur Dylan Jones yn traddodi’r feirniadaeth.
Seremoni Cadeirio a’r Tlws Ieuenctid dan 25 oed yn cael ei arwain gan Elliw Dafydd.