Dydd Sadwrn o Eisteddfod RTJ Llanbed

Dilynwch holl gystadlu’r dydd ar flog byw Clonc360.

gan Ifan Meredith

Mae’r llwyfan wedi ei osod a phawb yn barod am wledd o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed.

20:42

Soar Bach oedd yr olaf. 

20:39

Cystadleuaeth Ensemble Lleisiol newydd ddechrau. 
Pam Lai oedd y cyntaf.

20:38

Enillydd Llefaru Uwchradd. 

19:49

Cloi Seremoni’r Coroni wrth gyd-ganu yr anthem genedlaethol. 

19:46

Cyflwynir y ddawns flodau eleni gan Ysgol Carreg Hirfaen. 

19:41

Sara Elan yn darllen casgliad o gerddi Gareth Lloyd James, enillydd y Goron yn Eisteddfod RTJ Llanbed. 

19:31

Caib a Rhaw sef Gareth Lloyd James o Rhydyfelin ond yn frodor o Gwman yw enillydd y Goron. Gofynion y gystadleuaeth oedd i ysgrifennu casgliad o gerddi rhydd ar y testun ‘Hadau’. 

“Gweld arwyddocad mewn digwyddiadau pob dydd”
Cafodd ganmoliaeth gan y beirniad am ei gerddi.

19:24

Beirniad Llên yr Eisteddfod, Y Prifardd Tudur Dylan Jones yn traddodi’r feirniadaeth yn ystod Seremoni’r Cadeirio. 

19:11

Cystadleuaeth Ymgom neu Sgets a’r unig gystadleuwyr yw Ela a Swyn yn cystadlu. 

18:42

Yr Hybarch Eileen Davies yn llywyddu.