Dyffryn Cothi ar Daith

Clwb lleol yn ennill cystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant CFfI Sir Gâr

gan Carwen Richards

Mae’r aelodau wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth hanner awr adloniant sirol.

Roedd yr holl nosweithiau o ymarfer werth e yn y diwedd, gyda Dyffryn Cothi yn ennill yr Hanner Awr o Adloniant Cymraeg gyda’r cynhyrchiad, ‘Dyffryn Cothi ar Daith’. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Deian Thomas ar ennill gwobr y perfformiwr gorau o dan 28.

Mae cystadleuaeth Cymru yn cael ei chynnal ar ddydd Sul y 5ed o Fawrth ym Mangor, ac felly bydd ‘Dyffryn Cothi ar Daith’ ar daith go iawn i’r Gogledd ymhen wythnos! Byddant hefyd yn perfformio’r cynhyrchiad ar nos Iau y 9fed o Fawrth yn Theatr Felinfach, ar y 10fed o Fawrth yn Ysgol Bro Teifi ac yng nghyngerdd blynyddol y clwb yn ystod gwyliau’r Pasg.

Gobeithiwn drefnu bws, felly lledwch y neges ac os hoffech chi drip i Fangor i’n cefnogi ni, rhowch wybod!

Diolch mawr i bawb sydd wedi ein helpu.