Eisteddfod Ryng-Golegol yn dychwelyd i Lambed

Mae Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod

gan Lowri Thomas

Dyma’r ail waith i’r Eisteddfod ymweld â champws Llambed, ac yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod yn 2018, mae yna gryn edrych ymlaen i westeio’r digwyddiad eto.

Cynhelir penwythnos ar Fawrth y 3ydd a’r 4ydd, lle bydd hyd at 500 o fyfyrwyr o Brifysgolion y Drindod Dewi Sant,  Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd yn dod i gystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon a’r Eisteddfod.

Cystadlaethau chwaraeon megis pêl-droed a chystadleuaeth pêl-rwyd 7 bob ochr – fydd yn cael eu cynnal ar y dydd Gwener, gyda’r Eisteddfod ei hun yn cael ei chynnal ar y dydd Sadwrn.

Dywedodd Ffion Anderson, Llywydd y Cymdeithas Gymraeg y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r Eisteddfod Ryng-golegol yn ôl i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant eleni. Dwi’n gyffrous iawn, ac wedi mwynhau cefnogi tîm arbennig o’r brifysgol i sicrhau Eisteddfod hwylus.

“Gyda champws Llambed newydd ddathlu dau gan mlwyddiant ers ei sefydlu yn 2022, mae cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol yno yn sicr yn ffordd wych o ddathlu bywyd Cymreig y sefydliad. Pob lwc i bawb sy’n cystadlu, a gobeithio y caiff myfyrwyr Cymru benwythnos i’w gofio.”

Ychwanegodd Dan Rowbotham, Swyddog Cangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae’r Eisteddfod Rhyng-gol yn rhan ganolog i galendr cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr yma yng Nghymru, a dyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod yn ôl i gampws Llambed. Bydd hi’n gyfle i ddangos Llambed ar ei gorau ac i rhoi Eisteddfod i’w chofio i fyfyrwyr Cymru.”

Yn ogystal â hynny, mi fydd hi’n gyfle i’r myfyrwyr fynd o gwmpas busnesau tref Llambed a’u cefnogi.

Daw penllanw’r dathlu yn Llambed i ben nos Sadwrn y 4ydd o Fawrth, pan fydd gig yr Eisteddfod yn cael ei gynnal gyda ‘Dros Dro’ ‘Mali Haf’ a ‘Morgan Elwy’ yn perfformio.