Mae criw Clonc360 yn barod ar y maes i ddod â’r diweddadaf o’r cystadlu i chi.
Golygu dod draw i’r maes? – beth am rannu eich profiad ar y blog byw yma?
Pob lwc i gystadleuwyr y dydd o ardal Clonc360!
08:00- Unawd Alaw Werin bl. 6 a iau – Pafiliwn Coch- Nanw Griffiths-Jones
09:40- Llefaru Unigol bI. 3 a 4 – Pafiliwn Coch- Nanw Griffiths-Jones
11:55- Unawd Cerdd Dant BI. 3 a 4 – Pafiliwn Coch- Nanw Griffiths-Jones
14:00- Llefaru Unigol BI. 5 a 6 [D] – Pafiliwn Coch- Seirian Cutler, Ysgol Bro Pedr
15:50- Parti Llefaru bl. 6 ac iau – Pafiliwn Gwyn- Ysgol Dyffryn Cledlyn
Uchafbwyntiau’r dydd o faes yr Eisteddfod!
Grŵp Llefaru bl. 6 ac iau Ysgol Dyffryn Cledlyn newydd gystadlu.
Ysgol Dyffryn Cledlyn yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth y Grŵp Llefaru bl. 6 ac iau.
Seirian Cutler, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Llefaru bl. 5 a 6 i ddysgwyr.
Nanw Griffiths-Jones yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Cerdd Dant bl. 3 a 4.
Dyma rhagor o ganlyniadau o’r babell Celf, Dylunio a Thechnoleg!
Dyma rhai o ganlyniadau o’r babell Celf, Dylunio a Thechnoleg!
Nanw Griffiths-Jones wedi bod yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Alaw Werin bl. 6 ac iau a’r Llefaru Unigol bl. 3 a 4!
Mae rhywbeth i bawb ar y maes- hyd yn oed yr Eisteddfodwyr ifancaf gyda Sioeau Cyw yn yr Adlen!