Un traddodiad sy’n parhau yn gryf yn Llanbed yw’r arfer o ddod ynghyd bob mis i blygu Papur Bro Clonc.
Er bod peiriannau gan argraffwyr i gyflawni’r gwaith i gyd y dyddiau hyn, daw criw da at ei gilydd bod mis i blygu Papur Bro Clonc yn yr hen ffordd, a thrwy wneud hynny ceir cyfle am sgwrs a rhoi’r byd yn ei le.
Mae Clonc yn ymddangos yn y siopau lleol ar ddydd Iau cyntaf bob mis (heblaw Ionawr ac Awst) a chynhelir y plygu yn Festri Shiloh, Llanbed ar y prynhawn Mercher cyn hynny.
Yn nyddiau cynnar Clonc arferwyd cynnal y “plygu” yn Ysgol y Dolau Llanybydder gyda disgyblion yr ysgol yn ymgymryd â’r gwaith. Ond pan geuwyd yr ysgol honno cynhaliwyd y plygu am flynyddoedd yn Festri Soar, Llanbed.
Dai Williams sydd fel arfer yn casglu’r pecynnau cyfan o’r tudalennau arwahan o’r argraffwyr yn Aberaeron a wedyn eu trefnu ar gyfer y plygwyr ar y byrddau hir yn Festri Shiloh. Mae’r cyfan wedyn yn gweithio’n berffaith. Rhaid i bob plygwr godi un dudalen ar y tro, un ar ôl y llall cyn plygu’r papur bro cyfan yn ofalus a dechrau eto.
Gan fod criw da o bobl yn dod ynghyd i blygu Clonc, ychydig o dan awr a gymerir i gyflawni’r dasg. Ond rhaid canolbwyntio! Weithiau bydd tudalennau yn glynnu gyda’i gilydd neu mae’n bosib y gall tudalen achlysurol fynd ar goll wrth i’r gwirfoddolwyr gloncan gormod! Prin iawn yw’r achosion hynny diolch byth.
Caiff Clonc wedyn eu cyfrif a’u trefnu mewn bwndeli cyn eu clymu’n dynn yn barod ar gyfer eu dosbarthu i siopau lleol. Y broses gyfan yn hen ffasiwn efallai, ond yn hynod effeithiol a chymdeithasol dros ben.
Yn ystod y cyfnod clo, bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r arfer o blygu’r papur fel hyn, a chyflawnwyd y gwaith gan Alun a Marc yng Ngwasg Aeron, Aberaeron. Ofnwyd na fyddai’n bosib ail afael ynddi wedi hynny, ond bu’r ymateb yn rhyfeddol a daw criw da, yn ifanc ac yn hŷn er mwyn sicrhau bod y papur gorffenedig yn gweld golau dydd. Ceir ystod oedran o 8 i 80 oed.
Felly DIOLCH yw’r neges i bawb sy’n rhoi o’u hamser. Diolch am gynorthwyo gyda’r gwaith ac am barhau â’r traddodiad.
Os oes rhywun arall am ymuno, wel mae bob croeso i chi. Bydd rhifyn Ebrill Clonc yn ymddangos wythnos nesaf. Y cyfan a ofynnwn yw i chi ddweud wrthym os ydych yn gallu ymuno neu beidio fel y gallwn wneud trefniadau o flaen llaw.
Fideo o’r plygu ar y 1af Mawrth 2023
Fideo o’r plygu ar y 1af Hydref 2008.
Dyddiadau’r Plygu (Amser: 4 o’r gloch)
Ebrill – Dydd Mercher 5ed Ebrill
Mai – Dydd Iau 4ydd Mai
Mehefin – Dydd Iau 1af Mehefin
Gorffennaf – Dydd Mercher 5ed Gorffennaf
Medi – Dydd Mercher 6ed Medi
Hydref – Dydd Mercher 4ydd Hydref
Tachwedd – Dydd Mercher 1af Tachwedd
Rhagfyr – Dydd Mercher 6ed Rhagfyr