Rwy’n gallu mestyn fy nhrwyn gyda fy nhafod

Nia Haf Thomas sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
210B01E2-77C8-49AB-AC9A

Nia Haf Thomas, y cynorthwy-ydd pensaer o Lanybydder sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc.  Dyma flas i chi o hynny:

Pwy yw dy arwyr?
Fy nhad a’i bositifrwydd tuag at fywyd a’i waith caled!

Y peth gorau am yr ardal hon?
Ivy Bush Karoke.

Beth mae Papur Bro Clonc yn ei olygu i ti?
Mae Papur Bro Clonc yn atgof melys iawn i fi gan fy mod i’n arfer helpu i blygu Clonc ar nos Fercher ar ôl ysgol a wastad yn mynd i Williams Bach i brynu siocled cyn mynd.

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden?
Rwy’n joio cerdded a mynd am goffi. Mae rhywbeth special am werthfawrogi’r gymdeithas. Rwyf hefyd yn joio creu darluniau o syniadau fi ar gyfer interior design.

Pa mor aml wyt ti’n gweddïo?
Ddim yn aml mond os oes rhywbeth yn gofidio fi!

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd.
Darganfod fake tan.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf arnat ti?
Angharad Capeli yn siop Lan Lofft a’i gwaith caled. Dyw’r ferch na ddim yn stopo. Fe wnaeth hi fy nysgu i gael hyder a mynd amdani.

Arferion gwael?
Gwasgu Snooze pan fydd larwm fi’n canu!

Pa sioc alli di roi i ddarllenwyr Clonc amdanat ti dy hun?
Rwy’n gallu mestyn fy nhrwyn gyda fy nhafod.

Cofiwch brynu copi o rifyn cyfredol Papur Bro Clonc er mwyn darllen mwy amdani.  Dim ond 60c ceiniog y copi mewn siopau lleol neu £10 am danysgrifiad blwyddyn ar y we.