Galw cyn-aelodau MYW Llambed i de parti

Cangen Merched y Wawr Llanbed yn dathlu 50 mlynedd yn yr Hedyn Mwstard

Elin Williams
gan Elin Williams
baner MYW Llambed

Baner MYW cangen Llambed (gwaith Rosemary Davies)

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y gangen yng Nghaffi Mile End ar Stryd y Coleg nôl ym Medi 1972. Mae’n addas iawn felly bod y gangen, fel rhan o ddathliadau’r 50, yn mynd yn ôl i’r lleoliad hwnnw i ddathlu.

Yr Hedyn Mwstard sydd nawr, wrth gwrs, yn y man lle bu Caffi Mile End. A dyna lle bydd y gangen yn cyfarfod ar brynhawn Llun 13 Mawrth am 2 o’r gloch. Bydden ni’n dwlu cael cwmni unrhyw gyn-aelodau o’r gangen gyda ni. Does dim ots a fuoch chi’n aelod o’r cychwyn ai peidio. Does dim ots os mai dim ond am flwyddyn y buoch chi’n aelod. Byddwn yn falch o gael eich cwmni.

Dyma wahoddiad i chi ddod atom i gymdeithasu, gwledda a dathlu. Os am ddod, cysylltwch gydag Elin Williams (07498 717889), Ann Bowen Morgan (07791 966122) neu aelod arall o’r gangen cyn 7 Mawrth.