Pryder am wasanaeth bws 585 drwy Gellan a Llanfair Clydogau

Y perygl o golli gwasanaeth bws rhwng Llanbed a Thregaron

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Chris Lambert o bentref Cellan yn poeni am wasanaeth bws 585 rhwng Llanbed a Thregaron ac yn annog teithwyr i’w ddefnyddio.

Mae’n debyg y daw Cynllun Cymorth Argyfwng Bysiau Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd yn ystod Covid i helpu gweithredwyr bysiau, i ben ym mis Gorffennaf.  Mae hyn yn peri pryder mawr i weithredwyr a defnyddwyr bysiau mewn ardaloedd gwledig.  Mae Chris yn poeni y gellir colli gwasanaeth bws 585 o Lanbed, trwy Gellan, Llanfair Clydogau, Llanddewi Brefi i Dregaron, sydd eisoes wedi ei gwtogi.

Mae Chris yn Ysgrifennydd Cymdeithas Gwella Pentref Cellan, sydd hefyd yn Bwyllgor Rheoli Neuadd y Mileniwm Cellan, a dywedodd,

“Rwyf wedi bod yn defnyddio gwasanaeth bws 585 Llanbed i Aberystwyth yn gyson ers symud i Gellan yn 1975.  Mae’r gwasanaeth wedi cael ei redeg gan lawer o wahanol gwmnïau bysiau. Hyd at y Nadolig diwethaf, y gwasanaeth bob 2 awr oedd y gorau yr amser hwnnw.  Roedd yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Evans Coaches o Dregaron a Lloyds Coaches o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar Ŵyl y Banc.  Hyd at Ionawr eleni, roedd gennym wasanaeth bob 2 awr gyda 7 bws y dydd i Lambed a 6 bws y dydd i Aberystwyth, 2 o’r gwasanaethau hynny yn wasanaethau ysgol, hefyd ar gael i’r cyhoedd.”

Ond gwelwyd torri nôl ar y gwasanaeth yn barod.  Ychwanegodd Chris,

“Ers Ionawr 2023, mae’r gwasanaeth wedi cael ei leihau i 4 bws i Lanbed a 3 bws i Aberystwyth a mae gwasanaeth dydd Sadwrn wedi ei dynnu’n ôl yn gyfan gwbl. Mae hyn yn golygu, pan fydd Dydd Llun Gŵyl y Banc, does dim gwasanaeth bws am 3 diwrnod, 4 diwrnod adeg y Pasg ac weithiau dros y Nadolig.”

“Tu allan i’r tymor ysgol, dim ond 3 bws sydd i Lanbed.  Er mwyn cyrraedd Aberystwyth, mae’n rhaid i ni nawr fynd mewn i Lanbed a dal y gwasanaeth T1.  Fel arall, gan ddefnyddio gwasanaeth 585, byddai’n rhaid i ni ddal y gwasanaeth cyntaf o Lambed am 13.30 ond byddai’n rhaid cael gwasanaeth 15.45 yn ôl o Aber, gan roi rhyw 45 munud yn unig i ni yn Aber!!”

Mewn ymateb, dywedodd Elin Jones, Aelod Senedd Cymru dros Geredigion fod sefyllfa gwasanaethau bws mewn ardaloedd gwledig yn anodd iawn y dyddiau hyn,

“Mae lot o broblemau o fewn y sector bysus – llai o deithwyr olcovid, prisiau petrol, a diffyg gyrrwyr. Mae sawl cwmni gwledig bellach ddim yn tendro am y gwasanaethau. Mae yna bwysau i gael mwy o arian i’r sector – a mae yna ddatgnaiad eto ar fysus yn y Senedd ddydd Mawrth. Felly does dim datrysiad hawdd i rhai o’r gwasanaethau mwyaf gwledig.”

Mae diffyg gwasanaeth bws yn ychwanegu at y diffyg gwasanaethau gwledig eraill.  Esboniodd Chris Lambert,

“Mae ceisio cael apwyntiad gyda’r meddyg yn broblem, gan fod yn rhaid i ni ddal bws ysgol 8.30 o Gellan (pan ddylen ni fod ar y ffôn i’r feddygfa, sy’n agor am 8.30 ac yn rhoi apwyntiadau dros y ffôn yn unig!). Mae’r apwyntiad bore olaf am 11.45 ond dyw’r bws nesa i Lanbed ddim yn gadael Cellan tan bron i hanner dydd!  Mae pobl yn gorfod defnyddio tacsis, cael lifft neu ddefnyddio Bwcabus, ond dyw hynny ddim bob amser ar gael oherwydd diffyg gyrwyr.”

Apeliodd Chris ar y cyhoedd fel hyn,

“Rydyn ni angen mwy o bobl ar frys i ddefnyddio’r 585.  Ddim yn ddefnyddiwr bws ar hyn o bryd? Beth am pan na fyddwch yn gallu gyrru? Beth am roi cynnig arni, hyd yn oed dim ond cwpl o weithiau’r wythnos?  Mae’n wir yn achos o DEFNYDDIWCH EF NEU EI GOLLI!”

Ar y llaw arall mae Chris yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth gan y cwmni bws presennol,

“Bellach mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Evans Coaches yn unig. Maen nhw’n wych ac felly hefyd eu gyrwyr ac mae’r teithwyr yn gwerthfawrogi nad nhw sy’n gyfrifol am y gostyngiadau hyn.”