Gwthio’r cwch i’r dŵr ar adfer ffyniant yn Llanybydder

Cyfarfod er mwyn trafod cyfleoedd grantiau ychwanegol

gan Denise Owen

Rydym yn bwriadu trefnu cyfarfod wyneb i wyneb rhwng Grŵp Twf 10 Tref a busnesau Llanybydder er mwyn trafod y cyfleoedd grantiau ychwanegol sydd ar gael trwy y Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’r cyllid yma yn cynnwys:

Menter Canol Trefi (gwelliannau i ganol y dref)
Cyllid Refeniw
Grantiau Cefnogaeth Busnes
Grantiau Cymunedau Cynaliadwy
Cronfa Arloesi Gwledig

Gweithgarwddau cymwys Menter Canol Trefi er nad ydynt yn gynhwysfawr yw Prosiectau llecynnau cyhoeddus ar raddfa fach, Glanhau Strydoedd, Celfi stryd, Prosiectau gwyrdd/plannu ar raddfa fach, Celf stryd lle bo’n briodol a Phwyntiau gwefru cerbydau trydan/beiciau.

Cymorth ariannol o hyd at £20K yw Cyllid Refeniw gyda gweithgareddau cymwys yn cynnwys Prosiectau cysylltiedig â thwristiaeth gan gynnwys gwyliau/digwyddiadau, Costau sy’n gysylltiedig â mentrau rhwydweithio, hyfforddiant, a mentora sy’n darparu budd cymunedol eang, Mentrau marchnata llefydd, Caffael gwasanaethau arbenigol i archwilio hyfywedd mentrau newydd, Costau sy’n gysylltiedig â datblygu canol trefi e.e. darpariaeth marchnad awyr agored, gorchuddion awyr agored a darpariaeth fwyta a Chostau darparu staff.

Ymhlith y gefnodaeth sydd ar gael i fusnesau mae Grant i Fusnesau Newydd, Grant Twf Busnes, Cronfa Datblygu Eiddo a Chronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes.

Ymgeiswyr cymwys Grantiau Cymunedau Cynaliadwy yw’r Trydydd Sector a’r Sector Gyhoeddus lle mae cyllid cyfalaf a refeniw o £10K i £250K ar gael.

Ac yn olaf,  cynllun peilot o Gronfa ar gyfer Ardaloedd Gwledig yn unig gyda chyllid refeniw hyd at £45K ar gyfer y Trydydd Sector a’r Sector Gyhoeddus.

Felly, mae’n werth edrych mewn iddyn nhw.  Dewch i Krazy Horses yn Neuadd yr Eglwys, Llanybydder ar y 18fed Ebrill am 6.00yh er mwyn gwthio’r cwch i’r dŵr ar adfer ffyniant yn Llanybydder.