Gŵyl Pêl Droed yn dychwelyd i Lambed

Cannoedd o ieuenctid yn chwarae ar gaeau Bro Pedr.

gan Lowri Gregson
FB_IMG_1686492835635
FB_IMG_1686492843318
FB_IMG_1686492960654
FB_IMG_1686492968237
FB_IMG_1686493157870

Am y tro cyntaf ers 2019 fe gynhaliwyd gŵyl bêl-droed ieuenctid yn Llambed ddydd Sadwrn. Gŵyl a ddaeth â’r gymuned leol ynghyd ac yn gyfle i ddangos talent ac angerdd aruthrol pêl droedwyr ifanc ein hardal.

Bu’r pwyllgor wrthi’n trefnu’n fanwl ers rhai misoedd, a gyda chefnogaeth a pharodrwydd gwirfoddolwyr roedd yn ddiwrnod o lwyddiant ysgubol.

Penderfynwyd eleni i gynnal yr ŵyl ar gaeau Ysgol Bro Pedr, ac am wledd o gyfleusterau ar ddiwrnod braf o haf.

Cofrestrwyd 70 o dimoedd o dan 6 i 16 gyda thrawstoriad o dimoedd o ar draws Ceredigion a thu hwnt yn cymryd rhan.

Gwelwyd gemau gwefreiddiol gyda bechgyn a merched yn arddangos eu dawn a’u sgiliau. Roedd y gemau’n llawn cyffro ac egni ac roedd yn amlwg bod pawb yn mwynhau.

Gwelwyd sawl rownd derfynol cyffrous a chystadeuol. Yn brwydro’n frwd yn rownd derfynol dan 12 oedd Llambed a Llanybydder gyda Llambed yn dod i’r brig gyda sgôr agos iawn o 2-1.

Felinfach a Llambed oedd yn brwydro i fod yn bencampwyr dan 14 ond eto Llambed wnaeth gipio’r teitl yn ennill 3-0.

Brwydr corfforol iawn oedd rownd derfynol timoedd dan 16 rhwng Llambed a Llandudoch, ond parhau mae llwyddiant tîm talentog Llambed wrth iddynt ennill yn gyfforddus o 4 gôl i 0.

Gwobrwywyd chwaraewyr y dydd

O dan 6 i; Ilan Alffi Gregson (Llambed) Matilda Jones (Llambed) a Macs Potter (Llanybydder)

O dan 8 i; Jacob Hall (Llambed)

O dan 10; Luca Daniel (Tregaron)

O dan 11; Osian Bird (Llambed)

O dan 12; Gethin Thomas Jones (Llanybydder)

O dan 14; Dion Deacon Jones (Llambed)

O dan 16; Glen Evans (Felinfach)

Hoffai’r clwb ddiolch o waelod calon i holl noddwyr y diwrnod am eu cyfraniadau hael, i Ysgol Bro Pedr am y caeau, Canolfan Lles Llambed am eu cyfleusterau ac i’r holl dimoedd am gymryd rhan. Mae’n rhaid cydnabod pwysigrwydd a gwaith diflino’r gwirfoddolwyr yn y trefnu ac yn ystod yr ŵyl er mwyn sicrhau llwyddiant y diwrnod. Heb os, diwrnod i’w gofio!