Yr holl ysbyty yn brin o staff a mwy o bwyse gwaith ar bawb arall

Cyfrinachau’r Prentis Gofal Iechyd o Gwmann ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Mared-Cadwyn_1

Mared Jones o Gwmann sy’n ateb cwestiynau colofn ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc mis Hydref.  Mae hi’n Brentis Gofal Iechyd ac wrth ateb y cwestiwn ‘Beth yw’r peth gwaethaf am dy swydd bresennol?’ dywedodd bod yr holl ysbyty yn brin o staff sy’n meddwl llawer mwy o waith a phwyse gwaith i bawb.  Ychwanegodd hefyd bod gweld rhai cleifion yn sal iawn yn pwyso arni.

Ar y llaw arall dywedodd mai’r peth gorau am ei swydd yw edrych ar ôl pobol eraill a’u helpu i wella.

Dyma flas i chi o’i hymatebion eraill:

Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Mynd i de at y ddwy fam-gu ar ôl ysgol, roedd na wledd! – ac o’n i wastad yn rhy llawn i fwyta swper ar ôl hynny!

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Rhedeg off wrth Mam yn Matalan a chuddio tan reil ddillad!

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?
Pobl sydd yn ddiog, ddim yn lico gneud eu gwaith a ddim yn fodlon helpu eraill.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Tad-cu: Emyr Gof.

Beth fyddet yn ei wneud pe na byddet yn gwneud y gwaith hwn?
Adeiladu fflat packs i Ikea.

Pwy sy’n ddylanwad arnat ti nawr?
Mam a Dad, fy chwiorydd a hefyd merched gwaith.

Er mwyn darllen rhagor am gyfrinachau Mared, prynwch gopi o rifyn diweddaraf Papur Bro Clonc sydd ar gael yn y siopau lleol ac fel tanysgrifiad blwyddyn ar y wefan.