Yr Hyfforddai Paragyfreithiol a lwyddodd i gyrraedd gradd intermediate yn dawnsio tap

Naiomi Davies o Gwmann sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Gorffennaf Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
image2

Naiomi Davies o Gwmann sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.  Mae hi’n Hyfforddai Paragyfreithiol gyda Chyngor Sir Gâr.  Dyma ragflas i chi o’i hymatebion.

Beth yw’r peth gorau am dy swydd bresennol?
Gallu gweithio o adre.

Beth yw’r peth gwaethaf am dy swydd bresennol?
Cyfreithwyr twp.

Y peth gorau am yr ardal hon?
Teulu a ffrindiau yn byw yn agos.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Rhaid dreifo i bobman.

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden?
Hoff o gadw yn heini a chwarae pêldroed a hoci. Hefyd yn rasio ceir dros yr haf.

Pa mor aml wyt ti’n gweddïo?
Dw i yn trial mynd i’r eglwys bob dydd sul, felly wythnosol.

Pa fath o ddeddf hoffet ti weld Sendd Cymru yn ei phasio?
Dylai pobl dros 72 oed gymryd prawf gyrru arall i wneud yn siwr eu bod nhw yn saff i ddreifo.

Pa sioc alli di roi i ddarllenwyr Clonc amdanat ti dy hun?
Nes i lwyddo i gyrraedd gradd intermediate yn dawnsio tap.

Er mwyn darllen ei hymatebion i gyd, mynnwch gopi o rifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol ac ar gael fel tanysgrifiad digidol blynyddol ar wefan Clonc.