Hyfforddwraig hynod o falch yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Elin Williams o Gwmann sy’n hyfforddi partïon llefaru gorau Cymru 

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
A278E231-3E0E-422F-97C1-A86DDED6555A

Elin a Dafydd gyda’r cwpan.

5E42AB74-D8F1-4364-AE0B

Man a Man

4EAD755B-D3B2-4A63-824C

Sarn Helen

Elin Williams o Gwmann yw un o hyfforddwyr llefaru gorau Cymru ac fe brofwyd hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Elin a fu’n hyfforddi Parti Llefaru Man a Man o ardal Llanbed a gafodd y wobr gyntaf o blith 14 parti llefaru ddydd Iau.  Dywedodd Elin,

“Mor browd o griw brwdfrydig, angerddol ‘Man a Man’ a enillodd y wobr gyntaf am barti llefaru gyda’u cyflwyniad o ‘Yma wyf inna i fod’ ym Moduan. Diolch am y cwmni da a’r chwerthin ar hyd y daith!

Wedyn roedd Elin yn gyfrifol am hyfforddi Côr Llefaru Sarn Helen, hefyd o ardal Llanbed a gafodd yr ail wobr ddydd Gwener.  Yn ogystal â hynny, roedd Elin yn perfformio gyda’r côr.  Ychwanegodd Elin,

“Ail i griw Sarn Helen yn y côr llefaru ym Moduan gyda chyflwyniad am ‘Yr her yng ngeiriau Gerallt’. Yn hyfforddwraig hynod o falch eto. Braf bod gyda ffrindiau da ar y llwyfan. Steddfod Llambed ddiwedd Awst nesa!  Llongyfarchiadau Genod Llŷn.”

Ddydd Llun, enillodd Elan Jones, Cwmann Ruban Glas am lefaru yn yr eisteddfod a thalodd deyrnged i Elin Williams am ei hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth honno.  Dywedodd Elan,

“Fel un sydd wedi joio steddfota ers yn ifanc, rydw i wedi bod mor ffodus i gael Elin fel hyfforddwraig ar gyfer llefaru unigol ac mewn grwpiau, ac wedi profi cryn lwyddiant o dan ei harweiniad medrus! Mae ganddi’r ddawn i ddadansoddi’r darnau’n drylwyr ac i drosglwyddo ac esbonio hynny wrth hyfforddi.”

Ychwanegodd Elan,

“Mae’n berson hyfryd, mae’n amyneddgar a chefnogol ac rwy’n cael llawer o sbort a sbri gydag Elin – dw i bob amser yn chwerthin yn ei chwmni! Hyd yn oed os bydd Elin yn brysur, cymaint yw ei hymroddiad fel y bydd hi’n sicrhau bod cyfle i ymarfer a dw i hyd yn oed wedi mynd gyda hi â’r car i’r garej a chael gwers lefaru ar y ffordd yno ac wrth fynd o gwmpas siop Matalan ac Aldi!!”

Mae Elan mor ddiolchgar i Elin,

“Hoffen ni ddiolch o galon iddi am yr holl gyfleoedd a chymorth yr wyf wedi derbyn ganddi dros y blynyddoedd – mae hi wirioneddol yn seren!”

Yn gyn enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, yn feirniad cenedlaethol, hyfforddwraig a pherfformwraig o safon, mae Elin wedi hen ennill enw da yn y byd llefaru.