MYW Llambed yn dathlu 50

Rhestr o 90 enw aelodau gwreiddiol Merched y Wawr Llanbed.

Elin Williams
gan Elin Williams
E84D3924-CF28-4F6E-975B-1

Cinio Gŵyl Ddewi’r gangen yn y Llew Du yng nghwmni Marie James, Llangeitho. 1978

E84D3924-CF28-4F6E-975B-1

Cinio Gŵyl Ddewi’r gangen yn y Llew Du yng nghwmni Marie James, Llangeitho. 1978

Pen-blwydd hapus i gangen Llanbedr Pont Steffan o Ferched y Wawr yn 50 oed! Roedd y mudiad, yn genedlaethol, wedi ei sefydlu ers 1966 ond, diolch i frwdfrydedd llawer o fenywod yn y dref, yn 1972, aethpwyd ati i sefydlu cangen arbennig yn ‘Llanbedr Pont Steffan a’r cylch’. Beti Evans, Y Mans a’r diweddar Beryl Jones, Frondewi oedd y ddwy oedd yn gyrru pethau yn eu blaen yn bennaf.

Rhaglen cangen Llambed o Ferched y Wawr 1973-74
Rhaglen cangen Llambed o Ferched y Wawr 1973-74, sef eu hail flwyddyn mewn bodolaeth. Wnaethon nhw ddim argraffu rhaglen yn y flwyddyn gyntaf. (Diolch i Dilwen Roderick am y copi)

Mae darnau o bapur, rhaglenni, cofnodion a ffotograffau a fu’n hel llwch mewn ambell gwdyn papur mewn drâr wedi bod yn hynod werthfawr wrth i ni edrych nol ar y blynyddoedd cynnar. Er, mae’n debyg, bod sawl peth diddorol wedi cael ffling i’r bin heb i’r perchnogion weld gwerth arbennig ynddynt ar y pryd. Mae atgofion unigolion werth y byd wrth gofnodi hanes, ond mae hyd yn oed y rheini yn amrywio weithiau.

Yn wreiddiol, roedd sawl un ohonom yn meddwl mai rhestr o’r aelodau cyntaf oedd yr enwau niferus a gyhoeddwyd yn rhifyn Chwefror o Clonc eleni. 90 o enwau (gweler isod). Ond, na. Rydyn ni bellach yn credu mai enwau’r gwragedd a ddangosodd ddiddordeb, ymlaen llaw, mewn ymuno yn y gangen ‘newydd’ oedd rhain. Mae’n debyg bod Beti a Beryl wedi trefnu stondin mewn pabell fach ar gae’r ysgol uwchradd adeg Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Llambed ym mis Awst 1972. Roedd cyfle wedyn i fenywod roi eu henwau yno er mwyn iddynt allu mesur faint o awydd a diddordeb oedd yn y cylch i gangen newydd. Wrth i ni gysylltu’n ddiweddar gyda rhai oedd ar y rhestr, daeth yn amlwg bod ambell un o’r menywod wedi bod yn nodi enwau aelodau o’u teuluoedd ar eu rhan – chwiorydd, merched, mamau – ond ddaethon nhw ddim i gyd yn aelodau. Ar y llaw arall, rydyn ni’n gwybod am rai nad oedd y rhestr ond a oedd wedi ymaelodi yn y flwyddyn gyntaf. Pobol fel Morfudd Slaymaker, er enghraifft. Ond mae’n werth cyhoeddi’r rhestr o’r 90 yma ar Clonc360 gan ei bod yn gofnod o gyfnod diddorol ym mywyd Cymraeg y dref.

Rydyn ni’n dathlu bod tair o’r gwragedd ar y rhestr hon wedi bod yn aelodau yn ddi-dor am hanner can mlynedd, sef Dilwen Roderick, Avril Williams ac Eryl Jones. Ac mae nifer o’r rhai ar y rhestr dal yn aelodau heddiw ond eu bod wedi cymryd ‘seibiant’ rywbryd oherwydd bod eu bywydau yn brysur gyda gwaith a magu teulu.

Y GWRAGEDD AR Y RHESTR:

  1. Mrs Beti Evans, Y Mans, Stryd Newydd (llywydd)
  2. Mrs Laura John, Cartref, Heol y Bryn (is-lywydd, gwraig Parch. Stan John, Soar)
  3. Mrs Beryl Jones, Frondewi, Heol y Bryn (ysgrifennydd)
  4. Mrs Elizabeth Warmington, Heol y Bryn (trysorydd)
  5. Mrs Dilwen Roderick, Awelon, Heol y Bont
  6. Mrs Ann Thorne, Llanllwni
  7. Miss Eirlys Jones Lewis, Rhydygof
  8. Mrs Gwenda Richards, Siop Haydn Richards, Heol y Bont
  9. Mrs Avril Williams, Y Fedw, Cwm-ann
  10. Mrs Lettie Jones, Blaenau, Cellan
  11. Miss Elizabeth Jones, Blaenau, Cellan
  12. Mrs Trudi Williams, Nantoer, Cellan
  13. Mrs Phyllis Jones, Cilgell, Cwm-ann
  14. Mrs Eirian Thomas, Heol Maesycoed
  15. Miss Lil Jones, Ffynnonbedr
  16. Mrs Myfanwy Jones (efaill Lil, uchod) Ffynnonbedr
  17. Mrs Joan Evans, Drefach House
  18. Mrs Nansi Evans (efaill Joan, uchod), Cwmins
  19. Mrs Ray Morgan, Stryd Newydd
  20. Mrs Palma Stoneham, Heol y Bryn
  21. Mrs Nansi Evans, Caffi Mile End
  22. Mrs Gwyneth Evans, Tangraig, Silian
  23. Mrs Mary Oliver, Welwyn, Stryd Newydd
  24. Mrs Janet Lewis (Mrs ET Lewis)
  25. Mrs Sali James, Siop Cwm-ann
  26. Mrs Hilda Jones, Keronga, Stryd Fawr
  27. Miss Janet Jones (merch yr uchod), Keronga
  28. Mrs Betty Richards, 20 Bryn yr Eglwys
  29. Mrs C Williams, Dolaugwyrddion
  30. Mrs Gwyneth Williams (merch yr uchod), Dolaugwyrddion
  31. Mrs Mary Jones, Landre
  32. Mrs Lewis, Dolwerdd
  33. Mrs Megan Hughes, Gorlan, Stryd Newydd
  34. Mrs Enfys Jones, Siop Enfys, Heol y Bont
  35. Mrs Eryl Jones, Gerlan, Greenfield Terrace
  36. Mrs Pat Davies, 3 Barley Mow
  37. Mrs Sally Evans, 3 Bryn yr Eglwys
  38. Mrs Ann Lewis, Bronwydd, Stryd y Bont
  39. Mrs B.J. Jones, Brynteg, Cwm-ann
  40. Mrs Iris Evans, Dol-coed, Drovers Road
  41. Mrs Yvonne Davies (Cadman gynt) Dolaugleision
  42. Miss Inez Rees, Heol y Bont
  43. Mrs Hannah Lloyd, Awelfan, Heol y Bryn
  44. Mrs Menna Evans, Brynderw, Cwm-ann
  45. Miss Eluned Abel, Maes bach
  46. Miss Dilys Jones, Caeteithiwr
  47. Mrs Annie Howells, Fishers Arms, Llanwnnen
  48. Mrs Rees, Y Banc,
  49. Mrs James, 11 Teifi Terrace
  50. Mrs Gwen Jones, 8 Teifi Terrace
  51. Mrs Jones Lewis, Rhydygof
  52. Miss Davies, Tegfan
  53. Mrs Evans, Delville
  54. Mrs Jacob Davies, Alltyblaca
  55. Mrs Vera James, Y Fron, Heol y Bont
  56. Mrs Eiryth Davies, Ardeifi, Stryd Newydd
  57. Miss Eluned Evans, Llanllwni
  58. Mrs P Jones, Swyddfa’r Post
  59. Mrs Glenys Rees, Hazeldene
  60. Miss Jessie Price
  61. Mrs June Williams, Brongest
  62. Miss Sally Davies. Aelod Er Cof. (Sally Welsh)
  63. Mrs M. E. Williams, Tegfryn, Alltyblaca
  64. Mrs Nancy Hughes, Aelfryn, Stryd y Bont
  65. Mrs Margaret Owen, y fflat uwchben Quan
  66. Miss Ellen Jenkins, Cribyn
  67. Mrs Davina Evans (byw yng Nghribyn nawr)
  68. Mrs Lena (Olifer) Williams, Cwm-ann
  69. Mrs L Morgan, Lisbon
  70. Mrs Bessie Roberts, Green Park, Stryd Newydd
  71. Mrs H Davies, Sandpit Cottages
  72. Mrs Hamer, Wernllwyn, Station Terrace
  73. Mrs Sadie Davies, Glas y Dorlan
  74. Miss Cissie James, Heol y Bont
  75. Mrs Menna Evans, 38 Heol y Bont
  76. Mrs Davies, 38 Heol y Bont (mam yr uchod)
  77. Miss Henllys Jones, Rosedale, Heol y Bont
  78. Mrs Davies, Brynmeddyg (bysus)
  79. Mrs Angus, Stryd Fawr (siop wlân)
  80. Mrs Maggie Hughes, 1 Greenfield Terrace
  81. Mrs Gwenna Evans, 5 Greenfield Terrace
  82. Mrs Catherine Morgan, Garej Pontafaen
  83. Mrs Jones, Rhoslwyn, Station Terrace
  84. Mrs Davies, Bon Marche
  85. Mrs E A Williams, Heulwen, Cellan
  86. Mrs Eirlys Jenkins, 3 Peterwell Terrace
  87. Mrs Margaret Roberts, Brodawel, Cwm-ann
  88. Mrs Eluned Lewis, Tanlan, Cwm-ann
  89. Mrs Ray Williams, Bayliau, Cellan
  90. Mrs Mair John, Angorfa, Heol Llanwnen