Llanbed ac Aberteifi yn ildio gwobr ‘Ar dy feic’ i Aberaeron

Pa dref a gynhyrchodd y mwyaf o bŵer o’r beiciau sefydlog newydd?

gan claire hamer

Lansio’r beiciau yn Aberteifi.

Yn ystod mis Gorffennaf 2023, cynhaliodd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC), mewn cydweithrediad â The Great Outdoor Gym Company (TGOGC), gystadleuaeth rhwng trefi Aberaeron, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, i weld pa dref a gynhyrchodd y mwyaf o bŵer o’r beiciau sefydlog sydd wedi eu gosod yng Nghae Sgwâr (Aberaeron), Gerddi Victoria (Aberteifi) a Pharc yr Orsedd (Llanbed).

Lleolwyd y beiciau yn y trefi fel rhan o’r prosiect “Ar dy Feic” sy’n cael ei redeg gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (www.iechydagofalgwledig.cymru), sydd â’r nod o annog gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc drwy roi’r cyfle iddynt ddefnyddio’r awyr agored, beiciau statig sy’n cynhyrchu pŵer i wefru eu ffonau a’u dyfeisiau symudol. Ariannwyd y prosiect “Ar dy Feic” gan Cynnal y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion).

Noddodd TOGGC y gystadleuaeth rhwng y trefi trwy gytuno i ariannu plannu coed, fel rhan o Brosiect Eden. Roedd nifer y coed i’w plannu i fod yn seiliedig ar faint o ynni a gynhyrchir o’r beiciau yn ystod mis Gorffennaf. Mae gan Brosiect Ailgoedwigo Eden (www.edenprojects.org) 10 safle plannu coed ar draws y byd ac mae’n darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol gyda chyflog teg, tra’n gwrthweithio datgoedwigo.

Enillodd Aberaeron y gystadleuaeth drwy gynhyrchu’r mwyaf o egni ar y beiciau, gydag Aberteifi a Llanbed yn dod yn gydradd ail. Da iawn, Aberaeron! Arweiniodd y pŵer a gynhyrchwyd gan y beiciau yn Aberaeron at ariannu 90 o goed, tra bod y pŵer a gynhyrchwyd yn Aberteifi a Llanbed yn golygu bod 20 coeden fesul tref yn cael eu hariannu.

Cynigiodd TOGGC yn garedig ddyblu nifer y coed ac felly, yn ychwanegol at y 93 o goed a ariannwyd eisoes o ganlyniad i brynu’r beiciau, bydd y pŵer a gynhyrchir gan bobl sy’n defnyddio’r beiciau fel rhan o’r prosiect “Ar dy Feic” yn arwain at gyfanswm o 353 o goed yn cael eu plannu!

Mae IGGC a TGOGC yn falch iawn o frwdfrydedd cymunedau lleol Aberaeron, Aberteifi a Llanbed a hoffent ddiolch iddynt am eu cyfraniadau a’u hymrwymiad i’r gystadleuaeth a’r prosiect.

Bydd cysylltiad IGGC â’r prosiect ‘Ar dy Feic’ yn dod i ben ym mis Medi 2023, gyda’r beiciau wedyn yn cael eu trosglwyddo i gynghorau tref a chymunedau lleol Aberaeron, Aberteifi a Llanbed. Gall unrhyw un ddefnyddio’r beiciau fel ffurf o ymarfer corff awyr agored a/neu i wefru dyfeisiau symudol; y gobaith yw y bydd y beiciau’n annog ffyrdd mwy egnïol ac iachach o fyw, gan gysylltu hamdden awyr agored â thechnoleg ac ynni adnewyddadwy.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Claire Hamer, Swyddog Ymchwil a Datblygu, IGGC ar 01970 628962 / claire.hamer@wales.nhs.uk.